18 Mawrth 2020
Cau ysgolion – penderfyniad doeth, meddai UCAC
Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu datganiad y Gweinidog Addysg heddiw bod y gwyliau Pasg i ysgolion yn dechrau’n gynt, ar ddydd Gwener 20 Mawrth ar yr hwyraf.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Yn ystod y dyddiau a’r wythnosau diwethaf, mae staff ysgolion wedi dangos eu parodrwydd i fod yn y rheng flaen pan ddaw’n fater o fynd i’r afael â lledaeniad Covid-19.
“Mae UCAC yn croesawu’r datganiad gan y Gweinidog Addysg heddiw sy’n sicrhau cysondeb ledled Cymru, ac sy’n rhoi addewid i ystyried sut i ddiogelu’r dysgwyr mwyaf bregus yn ein cymunedau.
“Bydd UCAC yn parhau mewn trafodaethau dyddiol gyda Llywodraeth Cymru, ac yn pwyso’n arbennig am ddau beth yn y tymor byr.
“Y cyntaf yw datganiad buan iawn ynghylch sefyllfa arholiadau allanol. Mae’r ansicrwydd yn achosi pryder difrifol i ddisgyblion a staff fel ei gilydd. Rhaid cael eglurder cyn gynted â phosib.
“Yr ail yw set o ganllawiau clir ynghylch yr hyn y gellir disgwyl i staff ei wneud yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys sut i gymryd i ystyriaeth sefyllfa staff sy’n sâl neu sydd â chyfrifoldebau gofal.
“Byddwn yn parhau hefyd i gynnig cyngor a chefnogaeth i’n haelodau mewn cyfnod eithriadol o anodd i bawb.”
Nodiadau
-
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
-
Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.