Cyngor ariannol annibynnol

Gwasanaeth Ymgynghori Ariannol Annibynnol i Aelodau UCAC

Cred UCAC fod cael mynediad at gyngor ariannol annibynnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i aelodau wrth iddynt gynllunio tuag at eu dyfodol. Yn dilyn proses o gyfweld a gwirio, mae UCAC yn hapus i gymeradwyo'r cwmniau isod:

Rheolwyr Ariannol Fairstone Cyf.
(gwasanaeth i aelodau Cymru gyfan)
Am gyngor ariannol annibynnol ar faterion yn ymwneud â buddsoddiadau, pensiwn ac ysiwiriant.
www.fairstone.co.uk
01970 600 007 / 01239 800 330 

Sterling Porthmadog Cyf.
(gwasanaeth rhanbarthol i aelodau yng ngogledd a chanolbarth Cymru)
Am gyngor ariannol annibynnol ar faterion yn ymwneud â buddsoddiadau, pensiwn, yswiriant a morgeisi.
01766 513 273 

Canllaw Cyf
(gwasanaeth rhanbarthol i aelodau yng ngogledd Cymru)
Am gyngor annibynnol ar sut i gynllunio'n ariannol ar gyfer eich ymddeoliad.
www.canllaw.co.uk
01286 672 011 

Mae'r cwmniau uchod yn cael eu hawdurdodi a'u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

*Nid yw UCAC yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roir gan gwmni ymgynghori ariannol annibynnol.