Cynhadledd Flynyddol UCAC


Prif noddwyr Cynhadledd Flynyddol UCAC 2025

Diolch i Capital Law am fod yn brif noddwr ein Cynhadledd Flynyddol eleni '25.
Mae Capital Law yn ddarparwr blaenllaw o wasanaethau cyfreithiol a chanddo brofiad helaeth ym maes Addysg. Rydym wedi cael y pleser o gefnogi UCAC a’i aelodau am yr 18 mlynedd diwethaf. Rydym yn falch o gydweithio gydag UCAC ac o fedru cynnig gwasanaeth cyfiawn drwy’r Gymraeg, boed hynny mewn perthynas ag achosion yn y Tribiwnlys neu roi cyngor a chefnogaeth dros weithredu diwydiannol.

Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas gyda’r undeb a’i aelodau.


Pwrpas Cynhadledd Flynyddol?

  • Rhoi cyfle i aelodau dderbyn adroddiadau am waith yr Undeb ledled Cymru
  • Ystyried materion llosg sy’n ymwneud â byd addysg drwy drafod cynigion a dod i benderfyniad, er mwyn gallu cytuno ar farn swyddogol yr Undeb
  • Rhoi cyfle i aelodau gymdeithasu, trafod a dod i adnabod ei gilydd yn well
  • Urddo Llywydd ac Is-lywydd am y flwyddyn ddilynol

Nod y Gynhadledd?

  • Sicrhau bod aelodau yn rhan o broses ddemocrataidd, wrth ddod i farn a phenderfynu ynghylch amrywiol faterion sy’n ymwneud â byd addysg
  • Troi cynigion yn benderfyniadau, er mwyn llywio polisïau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd yr Undeb ar gyfer y dyfodol

Pam rydym ni’n annog aelodau i fynychu?

  • Mae’n bwysig bod pob aelod yn cael cyfle i fynegi barn ac i fod yn rhan o benderfyniadau pwysig yr Undeb
  • Mewn undeb mae nerth yw arwyddair yr Undeb, ac er mwyn gwireddu hynny, mae’n bwysig bod aelodau yn dod at ei gilydd mewn cynhadledd flynyddol

Manteision o fynychu

  • Mae’n gyfle i gymryd rhan weithredol yng ngwaith yr Undeb
  • Mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth a llywio penderfyniadau
  • Mae’n gyfle i ddod i adnabod cydweithwyr sy’n rhannu’r un profiadau
  • Mae’n gyfle i gymdeithasu a dod i adnabod pobl ledled Cymru
  • Mae’n gyfle i ddod i adnabod swyddogion a staff yr Undeb

Pwy sy'n gallu mynychu?

  • Pob aelod – o bob sector, o bob ardal ac o bob oedran
  • Pob aelod, beth bynnag yw eu swydd o fewn eu sefydliad