DEALLUSRWYDD ARTIFFISIAL - Hyfforddiant am ddim i athrawon

Mai 2026 

Thema prif siaradwr Cynhadledd UCAC yn Nant Gwrtheyrn eleni oedd Daron Harris, athro a chanddo dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu mewn ysgol uwchradd.  Mae wedi meithrin arbenigedd dwfn mewn Cyfrifiadureg, Deallusrwydd Artiffisial ac mae ganddo brofiad hefyd mewn arwain prosiectau cymunedol sy’n cysylltu technoleg yn ymarferol â Chwricwlwm Cymru.  Ef yw sefydlydd y cwmni Darganfodol, cwmni sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol i addysgwyr ar ddeallusrwydd artiffisial, sut i greu gemau cyfrifiadurol a sut mae rhaglennu.   Mae wedi teithio’n helaeth i ddarparu hyfforddiant a gweithdai arloesol i athrawon ac arweinwyr addysg. 

Ar hyn o bryd, mae Daron yn Ymgynghorydd Addysg Digidol gyda STEM Learning ar y rhaglen ‘Addysgu Digidol gyda Hyder’ ac yn cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, gan feithrin hyder a dealltwriaeth ymarferwyr o gyfrifiadureg a datblygu sgiliau digidol yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Nod ei gyflwyniad oedd plannu hedyn ym meddyliau’r gynulleidfa ynghylch potensial a heriau AI (Deallusrwydd Artiffisial).  Aeth â ni ar daith hanesyddol, er mwyn gosod Deallusrwydd Artiffisial yn ei gyd-destun hanesyddol, cyn mynd ymlaen i drafod y posibiliadau a’r heriau y mae AI yn eu cynnig ar hyn o bryd. 

Mae’n amlwg bod y dechnoleg newydd yn datblygu ar gyflymder ac y dylem fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf.   Mae’n werth cofio fod hyfforddiant y rhaglen Addysgu Digidol gyda Hyder am ddim i athrawon Cymru.  Ewch i’r wefan https://www.stem.org.uk/addysgu-digidol-gyda-hyder i gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau ac i archebu lle ar gwrs addas ar gyfer eich anghenion chi. 

 

CYFLE AM SWYDD

14 Mai 2026

Uwch Swyddog Gweinyddol

Mae UCAC yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar.

Prif waith yr Uwch Swyddog Gweinyddol fydd:

  • Rheoli gwaith gweinyddol Swyddfa UCAC o ddydd i ddydd
  • Cydlynu gwaith cyfathrebu a threfnu UCAC
  • Gweithredu fel cydlynydd Iechyd a Diogelwch

Cyflog cychwynnol y swydd: £37,139

Ceir ffurflen gais, disgrifiad swydd a manylion pellach YMA.

www.ucac.cymru

Dyddiad cau: Mehefin 8fed, 2026

Cyfweliadau: Mehefin 11eg, 2026

01970 639950|Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

LLONGYFARCHIADAU

12 Mai 2026

Mae UCAC yn llongyfarch Plaid Cymru ar eu buddugoliaeth yn Etholiadau Senedd Cymru.   Yn sgil ei gefndir, hyderwn fod gan ein Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r byd addysg.   Edrychwn ymlaen yn ddisgwylgar at weld Plaid Cymru yn mynd i’r afael â’r heriau mawr a real sy’n wynebu byd addysg yng Nghymru heddiw.  Mae’r Undeb eisoes wedi mynegi ei rwystredigaethau a’i siom ynghylch sefyllfa addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Mae maniffesto UCAC ar gyfer etholiadau’r Senedd yn datgan: ‘Mae’n amlwg nad yw materion creiddiol i sicrhau llwyddiant addysg wedi eu datrys yn ystod y degawdau [diwethaf].  Rydym wedi clywed digon o addewidion am wella amodau gwaith i athrawon.’  Ein gobaith yw y gwelwn fwy nag addewidion gan y Llywodraeth newydd ac y gwelwn weithredu pendant ac effeithiol, gan sicrhau canlyniadau gwirionedd a chadarnhaol, er budd ein gweithlu addysg.

Croesawn y pwysigrwydd a roddwyd i addysg gan Blaid Cymru ac edrychwn ymlaen at weld y Blaid yn gweithredu’n syth, yn unol â’r hyn a addawyd ganddynt yn y ddogfen ‘Y 100 Diwrnod Cyntaf.’  Mae Plaid Cymru wedi nodi yn y ddogfen honno  y ‘bydd addysg yn hollol greiddiol i uchelgais llywodraeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru – dyma’r allwedd i ddatgloi cyfleoedd newydd a gwell, ac adeiladu’r genedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol y gwyddom y gall Cymru fod.’   Yn ‘Y 100 Diwrnod Cyntaf’,  mae’r Blaid wedi nodi y meysydd y maent am roi sylw iddynt yn y cyfnod cynnar – codi safonau; agwedd gyfun tuag at ymddygiad, presenoldeb a lles; stad ysgolion sy’n addas i bwrpas; ffonau clyfar mewn ysgolion a sector addysg uwch cynaliadwy. Hyderwn y cawn gyfrannu at y camau cychwynnol yn y meysydd hyn, yn ogystal â rhannu ein pryderon a’n dyheadau ehangach gyda’r Gweinidog Addysg newydd, pan fydd wedi ei benodi.  Cynhaliwyd ein Cynhadledd Flynyddol ganol mis Ebrill ac yn y Gynhadledd honno pasiwyd nifer o gynigion y byddwn, gobeithio, yn gallu eu rhannu a’u trafod gyda’r Gweinidog.    

Mae’r cyfnod hwn yn gyfnod newydd, cyffrous yn hanes Cymru. Yng nghanol y cyffro a’r gobaith, rydym am bwysleisio pa mor bwysig yw hi i’r Llywodraeth newydd roi ystyriaeth ddifrifol i’r sector addysg, fel y maent wedi ei addo.    Mae’r Prif Weinidog newydd eisoes wedi nodi fod ganddo ‘yr awch i wneud gwahaniaeth i’r hyn sy’n bwysig i fywydau pobl.’ Byddwn yn barod i gydweithio, i herio a’i ddal i gyfrif. 

 

CYDYMDEIMLAD

8 Ionawr 2026 

Trist oedd clywed y newyddion yr wythnos hon am farwolaeth John Hopkin Evans a fu’n aelod gweithgar o’r undeb.  Ef oedd Llywydd UCAC rhwng 1984 ac 1985.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i'w deulu a’i ffrindiau.

 

ADNODDAU LLES EDUCATION SUPPORT

Ionawr 2026 

Mae'n gyfnod o ddechreuadau newydd - blwyddyn galendr newydd a thymor newydd!  

Dyma gyfle newydd, felly, i roi blaenoriaeth i les holl staff yr ysgol.  Dilynwch y ddolen isod ar gyfer adnoddau dwyieithog gan Education Support.   Mae yma adnoddau penodol ar gyfer cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr cymorth dysgu,  ond cofiwch hefyd fod Education Support yn cynnig gwasanaeth i holl staff yr ysgol.  Mae modd cofrestru ar gyfer Gwasanaeth Cynghori ar Lesiant a Gwasanaeth Goruchwyliaeth Broffesiynol.  Mae'r gwasanaeth hwnnw wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac nid oes unrhyw gost i chi na'ch ysgol.  

Support for TA's & LSA's - Wales toolkit

Dilynwch y ddolen....darllenwch y deunydd.....dywedwch wrth eraill am yr adnoddau hyn!