TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL
Chwefror 2025
Mae nifer o aelodau wedi cysylltu â ni yn mynegi pryder ynghylch amseriad cyflwyno’r cwrs TGAU newydd Astudiaethau Crefyddol. Mae’r cwrs TGAU newydd Hanes eisoes wedi ei ohirio am flwyddyn. Penderfynwyd ar yr oedi hyn yn sgil pwysau o nifer o gyfeiriadau a gallwn eich sicrhau fod UCAC wedi bod yn rhan o’r pwyso hynny ar CBAC. Yn yr un modd, rydym wedi bod yn cysylltu gyda CBAC am y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol ac wedi mynegi ein pryder fod nifer o ddogfennau a hyfforddiant allwedol wedi eu cyflwyno’n hwyr iawn, gan olygu mai prin iawn yw’r amser paratoi i athrawon. Mae llythyr wedi ei anfon at swyddogion CBAC, gan gynnwys y Prif Weithredwr, yn erfyn arnynt i roi ystyriaeth ddifrifol i’n cais i ohirio cyflwyno’r cwrs newydd hwn. Mae’n rhaid wrth amser digonol i athrawon allu paratoi, os ydym am i’r cyrsiau newydd yma lwyddo. Byddai oedi yn fanteisiol i les athrawon a dysgwyr.