GALWAD AM YMDDIRIEDOLWYR

Gorffennaf 2024

Mae UCAC yn cynrychioli athrawon,  darlithwyr ac arweinwyr addysg ym mhob cwr o Gymru.  

Rydym yn awyddus i benodi ymddiriedolwyr newydd i gyfrannu at lywodraethiant yr Undeb. Mae croeso i unrhyw aelod neu gyn-aelod fynegi diddordeb, a’r Cyngor Cenedlaethol fydd yn penodi’n derfynol. 

Prif rôl Ymddiriedolwyr UCAC yw llywodraethu a rheoli asedau’r Undeb:  

  • Gwarchod holl fuddsoddiadau’r Undeb, a derbyn cyngor gan yr ymgynghorwyr ariannol perthnasol
  • Bod yn gyfrifol am eiddo’r Undeb, gan sicrhau fod anghenion iechyd a diogelwch yn cael eu diwallu a sicrhau bod yr eiddo yn cael ei gadw’n safonol. 
  • Sicrhau bod Cynllun Pensiwn UCAC yn cael ei weinyddu’n effeithiol ac yn gywir gydag arweiniad arbenigwyr.

Mae’n gyfrifoldeb cyffredinol ar yr Ymddiriedolwyr i sicrhau gwytnwch yr Undeb a disgwylir iddynt gyfrannu at drafodaethau yn ymwneud â chyllid a datblygiad UCAC.

Disgwylir i Ymddiriedolwyr fod ar gael i gyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn. 

Disgwylir i ymddiriedolwyr wasanaethu am dymor o dair blynedd, ond mae modd gwasanaethu am sawl tymor yn ddilynol.  

Nid oes tâl i’r rôl hon, ond cynigir costau teithio. 

Os oes diddordeb gennych i ymgymryd â’r rôl, cysylltwch â Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am sgwrs neu i fynegi diddordeb gan roi crynodeb o’ch gyrfa ac amlinelliad yn egluro eich diddordeb.

YMWELIAD CYNTAF Â'R GYNHADLEDD

Mehefin 2024 

  

 

Roedd mynychu fy nghynhadledd gyntaf gydag Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru UCAC yn brofiad hynod gyfoethog a gyfrannodd yn sylweddol at fy natblygiad fel athro dan hyfforddiant. Rhoddodd y gynhadledd hon ddealltwriaeth ddyfnach i mi o’r heriau a’r cyfleoedd amlochrog o fewn y proffesiwn addysgu, gan gynnig trosolwg cynhwysfawr a fydd, heb os nac oni bai, yn dylanwadu ar fy nealltwriaeth o ofynion y swydd wrth imi ddechrau fy ngyrfa.

Un o'r agweddau mwyaf buddiol ar fynychu cynhadledd UCAC oedd dod i gysylltiad â materion cyfoes a dadleuon yn ymwneud ag addysg yng Nghymru. Cefais gyfle i ymgysylltu ag addysgwyr profiadol, cynrychiolwyr undebau, a llunwyr polisi a rannodd eu mewnwelediad ar bynciau oedd yn amrywio o ddiwygio’r cwricwlwm i rannu gofidiau manylion newydd TGAU a oedd yn gysylltiedig â llwyth marcio. Roedd y trafodaethau hyn yn tynnu sylw at gymhlethdodau polisïau addysgol a’r goblygiadau ymarferol i athrawon yn y dosbarth. Mae medru cael mewnbwn a deall y materion hyn yn holl bwysig i bobl ifanc sydd am ddechrau yn yr yrfa hon.

Roedd rhwydweithio yn fantais sylweddol arall o fynychu’r cynhadledd UCAC. Roedd cysylltu â chyd-athrawon, addysgwyr profiadol, ac aelodau undeb yn meithrin ymdeimlad o gymuned a chefnogaeth. Bu rhannu profiadau a heriau gydag eraill yn fodd o agor fy llygaid i’r ffaith nad wyf ar fy mhen fy hun ar y daith hon, ac mae eraill yn rhannu'r un gofidion a theimladau. Wnes i hefyd gael y fraint o gael cyngor gan athrawon profiadol sydd wedi fy helpu i deimlo'n fwy hyderus a pharod ar gyfer fy mlwyddyn gyntaf yn yr ystafell ddosbarth.

Ymhellach, roedd cymryd rhan mewn trafodaethau am rôl undebau wrth eiriol dros hawliau athrawon a gwella safonau addysgol yn agoriad llygad. Roedd dysgu am ymdrechion yr undeb i sicrhau amodau gwaith gwell, cyflog teg, a chyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon yn tanlinellu pwysigrwydd bod yn aelod gweithgar o’r gymuned addysgu. Mae’r wybodaeth hon wedi fy ngrymuso i gymryd mwy o ran mewn ymdrechion eiriolaeth, gan sicrhau fy mod yn cyfrannu at y llais cyfunol gan ymdrechu am newid cadarnhaol yn y sector addysg.

Roedd bod yn rhan o gynhadledd flynyddol UCAC yn hynod fuddiol er mwyn fy atgoffa pa mor bwysig yw lleisio barn a gwrando ar yr hyn sy'n digwydd yn y byd addysgu. Mae'n hanfodol fod athrawon boed yn brofiadol tu hwnt neu ddim ond dechrau ar eu gyrfa yn cymryd rhan weithredol yn y prosesau a’r penderfyniadau sydd yn llywio ein proffesiwn a'n dyfodol. Trwy aros yn wybodus, gall athrawon ddadlau dros newidiadau a fydd yn gwella safonau addysgol. Mae gan bob un person addysgol rôl i’w chwarae yn y trafodaethau hyn, er mwyn sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd yn arwain addysg yn gyrru’r datblygiadau yma er budd pawb.

ANERCHIAD YR YSGRIFENNYDD CYFFREDINOL YNG NGHYNHADLEDD UCAC

Mehefin 2024 

 

Yn y lle cyntaf, carwn ddiolch o galon i chi am eich presenoldeb yma heddiw. Mae’r trafodaethau wedi bod o’r safon uchaf eleni, ac rwy’n falch iawn o gael bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar undeb sydd yn cael ei gynrychioli mor effeithiol gennych chi. Wrth gwrs, mae’n her ceisio patrwm cynadledda sydd am fod yn effeithiol mewn cyfnod lle mae’r galw ar athrawon yn fawr, llwyth gwaith yn uchel ac ysgolion yn amharod i ryddhau staff. Cafwyd cynhadledd lwyddiannus llynedd, a hynny dros nos yng Nghasnewydd ac yn amlwg cynhadledd un dydd, yr un mor llwyddiannus eleni. Mae’n bwysig iawn ein bod yn ceisio’r patrwm gorau posibl o ran sicrhau bod yr Undeb a’i Swyddogion yn derbyn yr arweiniad a’r llywodraethiant angenrheidiol yn flynyddol. I’r perwyl hwnnw, fe fyddwn yn anfon holiadur at aelodau cyn diwedd y tymor, yn unol â chais Y Cyngor Cenedlaethol,  i ofyn barn o ran natur cynhadledd 2025.

Diolchaf hefyd i’r Staff a’r Swyddogion am eu gwaith caboledig hwy yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Mae’n siwr y gall nifer fawr ohonoch dystio i weithgarwch y swyddogion yn eich cefnogi ac yn eich cynghori yn ystod y flwyddyn. Yn yr un modd, mae’n siŵr y bydd nifer ohonoch yn gallu ategu’r ffaith bod y Staff wedi parhau i weitho’n drwyadl a chywir. Mae’n diolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth i mi yn ogystal.

Ond, mae’n diolch pennaf heddiw i Nia, wrth gwrs. Hynny am ei threfniadau gofalus sydd wedi galluogi Cynhadledd mor llwyddiannus.

Fel y llynedd, mae’n bwysig nodi ein bod wedi colli sawl un sydd wedi bod yn weithgar dros yr Undeb yn y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, rwy’n meddwl ei fod yn deg i mi nodi ein bod, yn ystod y flwyddyn, wedi colli un fu’n ddylanwadol iawn ar waith yr Undeb o 1978 ymlaen, sef Gareth Miles. Bu’n Drefnydd ar UCAC, rôl oedd yn debyg iawn i fy un i yn ystod y cyfnod yna. Bydd nifer ohonoch yn cofio Gareth Miles fel ffigwr blaenllaw yn genedlaethol, yn enwedig gyda Chymdeithas Yr Iaith. Fe fu’n ddylanwadol iawn gyda TUC Cymru, yn ystod, ac wedi’r cyfnod y bu’n gweithio gydag UCAC yn ogystal.

Os ga i felly droi yn fyr at rai o’r  pynciau sydd wedi cymryd ein sylw dros y flwyddyn a fu. Yn amlwg, mae Llwyth Gwaith yn parhau’n bwnc sydd yn haeddu sylw. Er tegwch, mae’r Llywodraeth wedi cynnull rhanddeiliaid i sawl gweithgor. Yn anffodus, prin fydd effaith yr hyn sydd wedi ei drafod ar athrawon llawr dosbarth hyd y gwelwn, er bod peth symud ymlaen wedi bod. Rwy’n ddiolchgar i dri o’n plith yn y fan hyn am gytuno i fod ar ‘Grŵp Cyfeirio Athrawon’  Cenedlaethol, ac mae’n amlwg i’r Grŵp gael cryn effaith ar weision sifil yn eu trafodaeth cyntaf yn ddiweddar. Byddwn yn parhau â’r frwydr, wrth gwrs, gan ofyn am fodel tebyg i’r Alban, model fyddai’n gofyn am gytundeb o ran yr oriau a weithir mewn blwyddyn a sicrwydd o ran oriau gwaith.

Nid yw pethau’n argoeli’n dda o ran Cyflog ac Amodau eleni os ydym yn gobeithio gweld cynnydd sylweddol mewn cyflog ac amodau sydd yn ffafrio’r gweithiwr. Hyn yn rhannol gan fod oedi pellach o ran cyflwyno Adroddiad CACAC ac ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet eleni, ac nad ydym yn disgwyl gweld ymgynghoriad tan ganol mis Gorffennaf, ond hefyd oherwydd modelu’r Llywodraeth o ran codiadau 1,2 neu 3% i gyflog. Yn ogystal, roedd ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i’r Adolygiad Strategol a wnaed gan CACAC eleni yn siomedig iawn. Er derbyn yr argymhellion, nodwyd yn glir y byddai angen i unrhyw newid fod yn gost niwtral. Gallaf eich sicrhau bod UCAC wedi treulio oriau yn ymateb tair gwaith i’r Adolygiad Blynyddol ac i’r Adroddiad Strategol, ac eto, prin yr ydym yn symud ymlaen. Efallai fod angen i ni ystyried galw am gyd-fargeinio, yn hytrach na’r gweithdrefnau hir wyntog fel sydd gennym. Beth bynnag am hynny, byddwn yn ymgynghori gyda chi’r aelodau ar gynigion yr Ysgrifennydd Cabinet – pan y dônt.

Mae’n bwysig hefyd fy mod yn rhoi sylw i faes arall sydd wedi bod yn destun trafod aelodau a swyddogion ers sawl blwyddyn bellach, ond sydd wedi dod i’r amlwg mewn ffordd gwbl anffodus eleni yn Rhydaman. Yn anffodus, ni allwn nodi mai rhywbeth gwbl unigryw oedd y trais yn erbyn athrawon yn Ysgol Dyffryn Aman, ond yn sicr, mae clywed am ddigwyddiad o’r fath, mewn ysgol a sir lle bo gennym cynifer o aelodau yn destun braw a dychryn, ac roedd siŵr o daro Teulu UCAC yn genedlaethol. Mae unrhyw fath o drais yn gwbl annerbyniol. Mae angen gwarchod ysgolion, disgyblion ac athrawon. Rydym fel Undeb wedi codi ymddygiad a thrais yn gyson yn ein cyfarfodydd sirol a chenedlaethol – ond mae bellach yn amser i ni gael sgwrs cenedlaethol ar y mater. Nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i gynnal Uwch-gynhadledd ar y mater. Ei hymateb wrth i ni gwrdd â hi a chodi pryder oedd bod ‘Toolkit’ ar ei ffordd i ddiwallu’r anghenion! Mae’n debygol bod y Llywodraeth yn gweld bod angen gweithredu ymhellach na hynny erbyn hyn!

Mae nifer o bethau eraill sydd yn bwysig iawn i ni, ac yn destun ein gweithredu, gan gynnwys y Bil Addysg Gymraeg newydd, y Cwricwlwm, cymwysterau a llwyth gwaith a diffygion y gyfundrefn ADY – fel yr ydym wedi eu trafod eisoes heddiw. Byddwn yn parhau i godi’r hyn sydd yn bwysig i aelodau UCAC yn ein trafodaethau.

Wrth orffen carwn ddiolch o galon i Geraint Phillips am ei gefnogaeth a’i arweiniad yn ystod y flwyddyn. Yn anffodus, prin oedd yr amser ffurfiol gafodd Geraint i weithredu gan yr Awdurdod, ond mae o wedi bod yn gefn mawr i mi wrth i ni drafod a threfnu.  Y gobaith mawr yw bod Ceri Evans am gael ei ryddhau am y flwyddyn gan Sir Gâr. Rwy’n ddiolchgar iawn iddo yntau hefyd am ei weithredu fel Is-Lywydd eleni. Rwyf yn edrych ymlaen i gyd-weithio ymhellach flwyddyn nesaf, a charwn ddymuno pob hwyl iddo yntau ac i Sara Edwards ein Is-Lywydd wrth iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau ym Mis Medi.

Diolch yn fawr i chi, cofiwch i barhau i frwydro a chofiwch mai mewn undeb mae nerth! 

DOSBARTH MEISTR - YMDDYGIAD DISGYBLION A MEITHRIN GWYDNWCH

Mehefin 2024 

Pwnc sy'n codi ei ben yn aml y dyddiau hyn yw ymddygiad a disgyblaeth.  Mae Education Support yn cynnal dosbarth meistr ar-lein i athrawon ddydd Mawrth yr ail o Orffennaf rhwng hanner awr wedi naw a deuddeg o'r gloch ar ymddygiad a meithrin gwydnwch.   Isod, ceir mwy o wybodaeth am y gweithgaredd: 

Gall staff ysgolion yng Nghymru gofrestru ar gyfer dosbarth meistr wedi’i ariannu ‘Torri’r Cylch Trawma: Ymddygiad Disgyblion a Meithrin Gwydnwch’ ar ail o Orffennaf rhnwg 9.30a 12.00 o'r gloch. 

 

Mae’r dosbarth meistr rhithwir hwn yn cael ei lywio gan ein dealltwriaeth gynyddol o’r system nerfol ddynol, mae’n cynnig arweiniad ar beth i’w wneud i aros yn oedolyn diogel pan fo disgyblion yn dangos ymddygiad heriol. Mae hefyd yn rhannu fframwaith lles ymarferol ar gyfer meithrin gwydnwch gwirioneddol ac iechyd da i bawb mewn ysgolion.

 

Os ydych yn aelod o staff ysgol yng Nghymru, gallwch gofrestru nawr i sicrhau eich lle, a ariennir heb unrhyw gost i chi: https://www.eventbrite.co.uk/e/breaking-the-trauma-cycle-pupil-behaviour-and-building-resilience-tickets-915232865137?aff=oddtdtcreator

CYFARFOD AG YSGRIFENNYDD Y CABINET DROS ADDYSG

Mehefin 2024 

Yn dilyn newidiadau yng Nghabinet Llywodraeth Cymru, roedd UCAC yn falch o’r cyfle o gael cyfarfod â Lynne Neagle yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg.  Yn ystod y cyfarfod, cafwyd cyfle i drafod nifer o faterion sy’n peri gofid i’n haelodau ar hyn o bryd.

CYLLID

Mae sefyllfa gyllidol ein hysgolion yn peri pryder ac ysgolion di-rif yn gorfod chwilio am arbedion.  Canlyniad hyn, wrth gwrs, yw llai o adnoddau, llai o staff a llai o gyfleoedd i’n disgyblion, a hyn mewn cyfnod lle bo ysgolion yn gorfod mynd i’r afael â newidiadau chwyldroadol. 

LLWYTH GWAITH

Yn wyneb cwricwlwm newydd i Gymru, y ddeddf ADY newydd, cymwysterau newydd i ddysgwyr 14-16 oed, mae llwyth gwaith athrawon yn affwysol.  Er bod trafodaethau ar y gweill a gweithgorau wedi’u sefydlu i geisio ymdrin â’r broblem hon, hyd yma ni welwyd llawer o newidiadau ar lawr gwlad.  Rhaid gwneud mwy na siarad am y mater hwn ac mae’n bwysig bod camau ymarferol ar waith i sicrhau gwell telerau gwaith i athrawon ac er mwyn denu mwy i’r proffesiwn. 

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)

Un o’r meysydd sydd wedi ychwanegu’n sylweddol at lwyth gwaith athrawon yw’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.  Mae’r gofynion ar athrawon ac ar y cydlynydd (CADY) yn benodol yn sylweddol.  Hyd yma, ni bennwyd graddfa gyflog nac amodau gwaith penodol i’r rôl bwysig hon.  O ganlyniad, gwelwyd unigolion lu yn rhoi’r gorau i’w swyddi a rhai hyd yn oed yn gadael y proffesiwn oherwydd maint y gofynion.  Mae’r Ddeddf newydd yn peri heriau ac mae hyn yn cael ei gydnabod mewn sectorau y tu hwnt i fyd addysg.  Er lles dysgwyr a staff, mae’n rhaid gwneud rhywbeth ar fyrder.

GWEITHLU CYFRWNG CYMRAEG A STATWS Y GYMRAEG

Mae sicrhau gweithlu digonol ar gyfer y dyfodol yn allweddol ond yn heriol, ac mae sicrhau gweithlu cyfrwng Cymraeg hyd yn oed yn fwy heriol.  Rhaid gwneud y proffesiwn yn ddeniadol i’n pobl ifanc, gan gynnwys sicrhau fod digon o gyfleoedd i hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ogystal, angen gwneud pob ymdrech i weld ysgolion dwyieithog a Saesneg eu cyfrwng yn symud ar hyd y continwwm ieithyddol. Er mwyn gwireddu uchelgais y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid gweithredu a chymryd camau breision.   

Cafwyd cyfle hefyd i fynegi ein barn ynghylch natur y ddarpariaeth Gymraeg.  Nid cyflwyno’r iaith ar gyfer llwyddo mewn arholiadau neu berfformio yw’r nod, ond sicrhau bod gennym unigolion fydd yn defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd  mewn bywyd a gwaith. 

CYMWYSTERAU 14-16

Wrth wynebu cymwysterau newydd ar gyfer disgyblion 14-16 oed, rhaid sicrhau cefnogaeth a hyfforddiant proffesiynol amserol a digonol ac o’r radd flaenaf i bawb a fydd yn cyflwyno’r cyrsiau newydd.  Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw sicrhau bod yr adnoddau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi ar yr un adeg â’r adnoddau cyfatebol yn y Saesneg a rhoddwyd enghreifftiau o adegau pan na fu hyn yn wir. 

YMDDYGIAD A DISGYBLAETH

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, gwelwyd dirywiad amlwg o ran ymddygiad disgyblion ac mae digwyddiadau diweddar wedi tanlinellu’r angen dybryd i fynd i’r afael â phroblemau disgyblaeth yn ein sefydliadau addysgol.  Mae angen rhywbeth mwy na ‘phecyn cymorth’ er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn llefydd diogel i’n dysgwyr ac i’n staff. 

 Y DYFODOL 

Cafwyd gwrandawiad parchus ac ymddangosai’r Ysgrifennydd Cabinet i gytuno â’r sylwadau.  Ymhen ychydig ni fydd hi’n ‘newydd yn y swydd’ a’r gobaith yw y byddwn cyn pen dim, yn ei gweld yn amlwg yn datgan ei chefnogaeth ac yn gweithredu’n gadarnhaol dros athrawon.  Ei geiriau yn y Senedd ar ddechrau ei chyfnod yn y swydd oedd mai ei ‘man cychwyn bob amser fydd lles mwyaf ein dysgwyr, ac yn enwedig ein plant a'n pobl ifanc’.  Gobeithio y bydd yn sylweddoli bod lles athrawon a staff ysgolion ynghlwm wrth les disgyblion.  Amser a ddengys!