Y BERTHYNAS RHWNG ATHRAWON A RHIENI
Tachwedd 2024
Ydych chi am ystyried sut y gallwch adeiladu gwell perthynas rhyngoch chi fel athro/athrawes a rhieni dysgwyr? Os mai 'Ydw' yw eich ateb i'r cwestiwn, beth am gofrestru ar gyfer gweminar sydd wedi ei threfnu gan Education Support. Mae'r weminar yn cynnwys cyfraniadau gan ystod o addysgwyr. Cynhelir y weminar ddydd Mawrth 26 Tachwedd 2024 rhwng 4 a 5 y prynhawn.
Pam mae'r weminar hon mor bwysig?
*mae sefydlu a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol gyda rhieni ac athrawon yn hanfodol ar gyfer sicrhau llwyddiant dysgwyr
Bydd y weminar yn cynnig:
* arweiniad ar ddatblygu a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol
* cyngor defnyddiol sut i gynnal sgyrsiau gyda rhieni
* cefnogaeth a chyngor iechyd meddwl, gan nodi sut i ymdrin ag ymddygiad heriol
*arweiniad ar sut y gall ysgolion ddatblygu polisiau a strategaethau a fydd yn hybu perthnasau iach
Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â'r weminar, dilynwch y ddolen isod:
Building better parent-teacher relationships
Cynhelir y weminar drwy gyfrwng y Saesneg. Gofynnir am gyfraniad o bunt oddi wrth bawb fydd yn mynychu.