Atal Senedd San Steffan

02 Awst 2019
 

Atal San Steffan

Mae llawer o ansicrwydd yn deillio o’r hinsawdd wleidyddol sy’n codi oherwydd y posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb'.
 
Mae Frances O’Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol y Trades Union Congress (TUC), wedi ymateb ar ran yr undebau i gyd gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) i’r bygythiad diweddaraf i atal senedd San Steffan:
 
“This is a deliberate ploy by the prime minister to duck basic democratic scrutiny, at a time when people’s jobs and livelihoods are on the line.
“By denying parliament a voice, this government is treating the people with contempt.
“The effects of crashing out of the European Union without a deal would be felt for a generation.
“People and parliament together can stop this.
“We’ll support any democratic initiative to stop a disastrous no-deal whether through legislation, a general election or a popular vote.”
 
Bydd UCAC yn parhau i drafod y sefyllfa gyda’r TUC a gyda TUC Cymru dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

Eisteddfod Genedlaethol 2020

31 Gorffennaf 2019
 

Eisteddfod Genedlaethol 2020

Eleni, fel pob blwyddyn, bydd gan UCAC bresenoldeb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn nhref Llanrwst.
 
Bydd swyddogion ac aelodau UCAC yn ein pabell (Stondin 117) trwy gydol yr wythnos a bydd cyfle i gael sgwrs a thrafodaeth ac i glywed mwy am yr ymgyrch rhyng-undebol Toriadau i Ysgolion.
 
Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu ein haelodau.

Trafodaethau gyda Trysorlys San Steffan

29 Gorffennaf 2019
 

Trafodaethau gyda Trysorlys San Steffan

Ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 23ain, 2019 mynychodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Dilwyn Roberts-Young gyfarfod rhyng-undebol gyda Thrysorlys San Steffan. Roedd y cyfarfod wedi ei drefnu gan y TUC, er mwyn sicrhau cyfle i wyntyllu dyfarniad yr achos llys yn ymwneud â phensiynau diffoddwyr tân. 
 
Er bod y dyfarniad yn benodol am y proffesiwn hwnnw gall bod oblygiadau pellgyrhaeddol i bawb sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus gan gynnwys athrawon, darlithwyr ac arweinwyr.
 
Yn gyd-ddigwyddiadol cafwyd datganiad ysgrifenedig gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ar fore’r cyfarfod. Mae modd darllen y datganiad yma:

Darllen mwy

Pwy fydd yn talu am godiad cyflog athrawon?

22 Gorffennaf 2019
 

Pwy fydd yn talu am godiad cyflog athrawon?

Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (22 Gorffennaf) ynghylch cyflogau athrawon ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019-20, mae undeb athrawon UCAC wedi codi pryder ynghylch pwy fydd yn ariannu’r codiadau cyflog.
 
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol – dyma’r tro cyntaf i gyflogau athrawon Cymru gael eu penderfynu yng Nghymru. Mae hynny’n gam pwysig dros ben ac yn gydnabyddiaeth bod angen i Gymru gymryd cyfrifoldeb dros ei gweithlu addysg.
 
“Mae UCAC yn croesawu argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru sydd wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw. Os gweithredir y rhain yn llawn, mi fydd yn creu system dâl gwirioneddol genedlaethol ar gyfer athrawon a fydd yn darparu eglurder, cysondeb a thegwch i bawb.

Darllen mwy

‘Tystiolaeth lethol’ o broblemau ariannu ysgolion ledled Cymru

9 Gorffennaf 2019

‘Tystiolaeth lethol’ o broblemau ariannu ysgolion ledled Cymru

Mae undeb addysg UCAC yn croesawu’r adroddiad ‘Cyllido Ysgolion yng Nghymru’ a gyhoeddwyd heddiw (10/07/19) gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r Pwyllgor wedi gwneud ei ymchwil, wedi derbyn llu o dystiolaeth, ac wedi dod i’r casgliad clir ‘nad oes digon o arian yn mynd i’r system addysg yng Nghymru ac nad oes digon yn cyrraedd ysgolion’. Mae UCAC yn cytuno’n llwyr â’r casgliad hwnnw.

“Nid yw ysgolion yn gallu fforddio’r niferoedd o staff sydd eu hangen arnynt i ddarparu addysg o safon uchel. Canlyniad hynny yw bod dosbarthiadau’n cynyddu yn eu maint, gyda llai a llai o staff cymorth dysgu i rannu’r gwaith ac i roi cefnogaeth hollbwysig i ddysgwyr bregus.

Darllen mwy