Diweddariad i Athrawon dan Hyfforddiant: Covid-19
20 Mawrth 2020 16:30
Diweddariad i Athrawon dan Hyfforddiant: Covid-19
Mewn amser o ansicrwydd enbyd ym myd addysg cofiwch fod UCAC yma i chi fel athro dan hyfforddiant.
Cofiwch ddilyn y cyngor cyffredinol gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://llyw.cymru/coronafeirws a https://icc.gig.cymru/
Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor y Gweithlu Addysg a darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn gweithio ar y trefniadau ar gyfer athrawon dan hyfforddiant. Mae trafodaethau’n parhau, ond dyma ychydig o wybodaeth yn y cyfamser:
Myfyrwyr TAR
- Mae lleoliadau myfyrwyr mewn ysgolion wedi dod i ben yr wythnos hon
- Mae cydnabyddiaeth na fydd modd i fyfyrwyr gwblhau’r nifer o wythnosau gofynnol; caiff hyn ei gymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS)
Myfyrwyr is-raddedig
- Mae lleoliadau myfyrwyr mewn ysgolion wedi dod i ben yr wythnos hon
- Ar gyfer lefelau 4 a 5 (fel arfer blynyddoedd 1 a 2), mae cydnabyddiaeth na fydd modd i fyfyrwyr gwblhau’r asesiadau yn yr ysgol gofynnol; mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r darparwyr i benderfynu sut i gymryd hyn i ystyriaeth
- Ar gyfer lefel 6 (fel arfer blwyddyn 3), bydd darparwyr yn gallu asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) ar sail eu gwaith academaidd a phrofiad dysgu (mewn ysgol), hyd yn oed ble nad yw’r rhain yn cyrraedd y 24 wythnos gofynnol
Rhaglen Athrawon Graddedig (GTP)
- Fel gyda cyrsiau TAR a chyrsiau is-raddedig, bydd gan darparwyr y disgresiwn i asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) ar y dyddiad y mae eu hysgolion yn cau
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach neu unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu 01970 639950.
Wrth i’r sefyllfa ddatblygu’n ddyddiol byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda chi.