Diwrnod Coffa Gweithwyr Rhyngwladol
28 Ebrill 2020
Diwrnod Coffa Gweithwyr Rhyngwladol
Mewn neges gan TUC Cymru cawsom ein hatgoffa bod ‘yr argyfwng coronafeirws wedi taro ein gweithleoedd yn galed’ a ‘llawer o gyflogwyr heb sicrhau diogelwch eu gweithwyr eto’.
Heddiw, Dydd Mawrth 28ain o Ebrill, yw Diwrnod Coffa Gweithwyr Rhyngwladol pan fydd cyfle i gofio am y rhai sydd wedi marw yn y gwaith ac ymgyrchwn dros amodau diogel i bob gweithiwr.
Ymunwch mewn munud o dawelwch.
Am 11.00 y bore ar ddydd Mawrth 28 Ebrill rydym yn eich annog i dreulio munud er mwyn talu teyrnged i'r holl weithwyr sydd wedi colli eu bywydau o'r coronafeirws neu o salwch neu anaf arall sy'n gysylltiedig â’r gwaith. Cefnogir y fenter hon gan Lywodraeth Cymru ac mae’n gyfle arbennig i gofio am aberth gweithwyr ar draws y byd ac yn ein cymunedau ni.
Os ydych yn gweithio o gartref gallwch sefyll tu allan i’ch tŷ i nodi'r un munud o dawelwch fel stryd neu gymuned. Gallwch helpu i ledaenu'r gair am y munud o dawelwch drwy ofyn i’ch teulu, ffrindiau a chymdogion i gymryd rhan.
Bydd UCAC yn nodi'r digwyddiad ar y cyfyngau cymdeithasol.