Diweddariad (2) i athrawon llanw/cyflenwi
27 Mawrth 2020
Diweddariad (2) i athrawon llanw/cyflenwi
Rydym yn ymwybodol iawn o’r ansicrwydd mawr sy’n eich wynebu ar hyn o bryd, ac yn mawr obeithio eich bod chi’n cadw’n ddiogel.
Mae UCAC wedi bod yn pwyso am eglurder ynghylch sefyllfa athrawon cyflenwi/llanw. Nid yw hynny’n fater rhwydd oherwydd, yn anffodus, bod cymaint o wahanol batrymau o gyflogaeth a gwahanol mathau o gyflogwyr ar gyfer athrawon cyflenwi.
Rydym yn parhau mewn trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru ac yn ymwybodol eu bod yn ystyried sefyllfa athrawon cyflenwi, a’r anawsterau penodol rydych chi’n eu wynebu, ar hyn o bryd. Rydym yn obeithiol y byddant yn gallu cynnig rhywfaint o eglurder erbyn wythnos nesaf.
Dyma’r diweddaraf o ran gwybodaeth a chyngor gan UCAC:
Cytundeb tymor-hir
Os ydych chi ar gontract tymor hir gydag ysgol neu Awdurdod Lleol, mi ddylent barchu’r cytundeb – hynny yw, parhau i’ch talu chi yn unol â’r cytundeb, ac o bosib cytuno ar batrwm gwaith amgen (e.e. gweithio mewn ysgol/hwb; gweithio o adre). Os oes unrhyw anhawster gyda hyn, cysylltwch â ni, a byddwn yn eich cefnogi.
Os ydych yn mynd yn sâl, byddwch yn derbyn tâl salwch yn hytrach na thâl llawn. Os ydych chi’n hunan ynysu am fod rhywun arall yn eich tŷ yn sâl ac nad oes modd cynnig unrhyw waith i chi wneud o adref, wedyn mae’n debygol y byddwch yn gallu hawlio tâl salwch hefyd.
Rhestr llanw/cyflenwi Awdurdod Lleol
Os ydych chi ar restr llanw/cyflenwi awdurdod lleol, mae’n bosib y bydd yr awdurdod yn gymwys ar gyfer y ‘Job Retention Scheme’ a’r hawl i’ch trin chi fel ‘furloughed worker’, os ydych chi a’r cyflogwr yn cytuno i hynny. Os oes cytundeb rhyngoch chi, y cyflogwr sy’n gwneud y trefniadau.
Mae hyn yn berthnasol os oeddech chi ar gyflogres yr awdurdod ar 28 Chwefror 2020, hyd yn oed os mai cytundeb dros-dro neu dim-oriau oedd gennych chi, ac nad oes modd cynnig gwaith i chi yn sgil yr argyfwng COVID-19.
Os ydych chi’n gymwys, gallech dderbyn 80% o’ch cyflog hyd at uchafswm misol o £2,500. Os ydych ar ‘furlough’ nid oes modd i chi ymgymryd ag unrhyw waith i’ch cyflogwr yn ystod y cyfnod. Dylai’r cynllun fod ar gael o ddiwedd mis Ebrill.
Mae manylion llawn fan hyn: https://www.gov.uk/guidance/check-if-you-could-be-covered-by-the-coronavirus-job-retention-scheme
Hunan-gyflogedig
Os ydych chi’n hunan-gyflogedig, mae’n bosib y bydd y cynllun a gyhoeddwyd neithiwr (26 Mawrth) gan Lywodraeth San Steffan o fudd i chi.
Sut i benderfynu a ydych chi’n hunan-gyflogedig: https://www.gov.uk/employment-status/selfemployed-contractor
Gwybodaeth am y cynllun ar gyfer y sawl sy’n hunan-gyflogedig:
https://www.gov.uk/government/speeches/chancellor-outlines-new-coronavirus-support-measures-for-the-self-employed
https://www.gov.uk/government/news/chancellor-gives-support-to-millions-of-self-employed-individuals
Yn fyr:
- grant trethadwy o hyd at 80% o'ch elw misol cyfartalog dros y tair blynedd diwethaf, hyd at £2,500 y mis
- bydd y cynllun ar agor am 3 mis yn y lle cyntaf; caiff ei ymestyn yn ôl yr angen
- bydd modd hawlio'r grant a pharhau i weithio
- disgwylir y bydd modd cael mynediad i'r cynllun dim hwyrach na dechrau mis Mehefin (gydag ol-daliadau o dri mis yn daladwy bryd hynny)
- bydd Cyllid a Thollau (HMRC) yn cysylltu'n uniongyrchol â'r sawl sy'n gymwys gan ofyn i chi lenwi ffurflen syml, a thalu'r grant yn uniongyurchol i'ch cyfrif banc; ni ddylid cysylltu â Chyllid a Thollau ar hyn o bryd
- mae'r system budd-daliadau wedi newid fel bod modd i bobl sy'n hunan-gyflogedig gael mynediad llawn at Gredyd Cynhwysol
Gweithio trwy asiantaeth
Os ydych chi'n gweithio trwy asiantaeth ("employment intermediary"), a bod yr asiantaeth yn delio â materion treth ar eich rhan (h.y. nid ydych yn cwblhau Hunan-Asesiad Treth, ac felly nid ydych yn hunan-gyflogedig), nid yw'r sefyllfa mor eglur.
Mae'n werth i chi gadw llygad ar y dudalen hon i weld a yw eich cyflogwr yn gymwys ar gyfer y Job Retention Scheme (gweler uchod, dan bennawd Rhestr Llanw/Cyflenwi, am fanylion y cynllun) - a chysylltu gyda'ch asiantaeth i ofyn iddynt:
https://www.gov.uk/guidance/check-if-you-could-be-covered-by-the-coronavirus-job-retention-scheme
Mae'r TUC a TUC Cymru yn parhau i godi cwestiynau am weithwyr yn y sefyllfa hon. Yn ogystal, mae UCAC yn parhau i holi'r cwestiynau i Lywodraeth Cymru ac yn pwyso arnynt i sicrhau eglurder.
Cysylltwch os oes angen cefnogaeth arnoch chi.
Gwybodaeth ac opsiynau eraill
Cyngor cyffredinol ar opsiynau posib: https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19/covid-19-guidance-for-employees
Tâl salwch: https://www.gov.uk/statutory-sick-pay
Credyd cynhwysol: https://www.gov.uk/universal-credit
Lwfans cyflogaeth a chynhaliaeth: https://www.gov.uk/employment-support-allowance/eligibility
Gwaith dros y cyfnod i ddod
Os ydych chi mewn sefyllfa i barhau i weithio, mae'n werth i chi gysylltu gyda'ch Awdurdod(au) Lleol i ddatgan hynny. Mae'n bosib y bydd cryn dipyn o waith i athrawon cyflenwi dros y cyfnod i ddod.
Mae rhai Awdurdodau Lleol yn cadw rhestr o athrawon cyflenwi. Mae eraill nad ydynt yn gwneud bellach - ond efallai y byddent yn ystyried gwneud dan yr amgylchiadau presennol. Mae UCAC yn pwyso ar awdurdodau lleol i gymryd rheolaeth yn ôl dros athrawon cyflenwi er mwyn gallu cydlynu'r ymateb i'r argyfwng presennol yn effeithiol a cheisio cadw lleoliadau addysgol ar agor.
Os nad yw'ch Awdurdod Lleol yn fodlon cymryd eich manylion, mae'n debygol y bydd rhaid parhau i weithio trwy eich asiantaeth(au) arferol.
Byddwn yn aros mewn cysylltiad cyson, ac yn anfon atoch cyn gynted â phosib gydag unrhyw ddiweddariadau. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu ar 01970 639950 neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon.