Diweddariad: Canllawiau dros dro: Cyfnod Ymsefydlu

Bydd UCAC yn parhau i godi’r mater hwn er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa ar gyfer ANGiaid a chaniatáu iddynt gwblhau eu Cyfnod Ymsefydlu yn y modd mwyaf hwylus posib.
 

6 Ebrill 2020

Diweddariad: Canllawiau dros dro: Cyfnod Ymsefydlu

Yn sgil eich pryderon, mae UCAC wedi codi'r materion gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.
 
Dyma grynodeb o'r hyn rydym wedi'i godi ar eich rhan:

Darllen mwy

Pryder difrifol am y bwriad i ail-agor ysgolion

09 Mehefin 2020
Mae UCAC wedi datgan ein pryder difrifol am y bwriad i ail-agor ysgolion ac wedi pwysleisio pryderon ein haelodau i’r Gweinidog Addysg yn y modd cryfaf posib.

Heddiw bu i ni gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ers ei datganiad ac rydym wedi gosod yn glir ein pryderon a’n hanfodlonrwydd mewn gohebiaeth sydd ar gael yma:

LLYTHYR AT Y GWEINIDOG

Yn ogystal â’r llythyr ffurfiol rydym wedi rhannu rhestr gynhwysfawr o gwestiynau gyda chais am atebion buan. Mae’r ddogfen honno ar gael yma:

CWESTIYNAU

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau all fwydo i’r drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol er mwyn sicrhau lles ac iechyd staff a disgyblion ein hysgolion.

Gan obeithio eich bod yn ddiogel ac iach, cofiwch fod UCAC yma i chi ar gyfer pob ymholiad.
 

Pryder difrifol am ail-agor ysgolion

3 Mehefin 2020

Pryder difrifol am ail-agor ysgolion

Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad y Gweinidog Addysg heddiw bod ysgolion yn mynd i ail-agor yn raddol i bob disgybl o 29 Mehefin. 

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r undebau addysg wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru ers dechrau’r argyfwng, gan gynnwys ynghylch ail-agor ysgolion. Gyda’n gilydd, mae’r proffesiwn wedi llwyddo i ddarparu’n arwrol ar gyfer disgyblion Cymru yn ystod y cyfnod helbulus hwn.

“Fodd bynnag, rydym yn gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ail-agor cyn yr haf.

“Mae’r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm â cheisio sicrhau bod hyd yn oed nifer bychan o ddisgyblion yn dychwelyd cyn yr haf yn eithriadol o gymhleth – heb sôn am geisio sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddychwelyd. Mae creu amgylchedd mor ddiogel â phosib i bawb tra’n cynnal awyrgylch groesawgar a chefnogol yn her anferthol.

Darllen mwy

Ail-agor ysgolion

20 Mai 2020

Ail-agor ysgolion

Mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau am ail-agor ysgolion a charwn bwysleisio, unwaith yn rhagor, nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw ddyddiad(au) penodol ar gyfer dychwelyd i’n hysgolion.

Bydd angen amodau penodol ar gyfer unrhyw ddychwelyd ac rydym wedi cefnogi’r pum egwyddor sylfaenol gafodd eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg er mwyn sicrhau bod y dychwelyd yn ddiogel a strategol:

Darllen mwy