Datganiad Cyd-Undebol i'r Corff Arolygu Athrawon Ysgol (STRB)
11 Ionawr 2016
Toriadau i gyllidebau yn mynd i gael effaith ar safon athrawon
Mae undebau addysg ac arweinwyr ysgol wedi uno heddiw mewn datganiad at y Corff Arolygu Athrawon Ysgol (STRB), gan rybuddio bod y Llywodraeth yn mentro tanseilio safonau addysgu o ganlyniad i'r lleihad, mewn termau real, i'r gyllideb addysg a'r erydiad parhaol i gyflogau athrawon.
Colli cyfle o ran y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
17 Rhagfyr 2015
Colli cyfle o ran y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
Dylai darpariaeth cyfrwng Cymraeg fod yn elfen greiddiol a chanolog o ddeddfwriaeth newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ac nid ystyriaeth ymylol fel sydd ar hyn o bryd.
Athrawon cyflenwi'n parhau i ddioddef anghyfiawnder
16 Rhagfyr 2015
Athrawon cyflenwi’n parhau i ddioddef anghyfiawnder
Yn sgil cyhoeddi adroddiad ar waith athrawon cyflenwi heddiw, 16 Rhagfyr, mae undeb athrawon UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i fynd â’r afael â’r telerau anghyfiawn sy’n wynebu athrawon cyflenwi.
Chwilio am anrheg arbennig i berson arbennig?
1 Rhagfyr 2015
Chwilio am anrheg arbennig i berson arbennig?
I ddathlu agoriad siop newydd Rhiannon yn Aberystwyth, mae Gemwaith Rhiannon yn cynnig 10% o ddisgownt i aelodau UCAC yn eu siop yn Aberystwyth a Thregaron drwy gydol mis Rhagfyr 2015*.
Bygythiad i gwricwlwm newydd Cymru yn sgil toriadau
24 Tachwedd 2015
Bygythiad i gwricwlwm newydd Cymru yn sgil toriadau
Mae UCAC, un o brif undebau addysg Cymru, wedi mynegi pryder ynghylch toriadau llym a ddisgwylir yn Adolygiad Gwariant Llywodraeth San Steffan ddydd Mercher.