UCAC yn trafod goblygiadau gweithio'n hirach yn San Steffan
29 Gorffennaf 2016
UCAC yn trafod goblygiadau gweithio'n hirach yn San Steffan
Bu'r Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Dilwyn Roberts-Young mewn cyfarfod o'r Adolygiad Gweithio'n Hirach yn San Steffan ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 19eg.
Mae'r cyfarfodydd hyn yn rhai sydd yn digwydd yn gyson ac yn cynnig cyfleoedd i'r llywodraeth, y cyflogwyr a swyddogion undebau ystyried yr heriau sydd yn wynebu athrawon wrth iddyn nhw weithio hyd at eu chwedegau hwyr. Mae’n allweddol bod UCAC yn mynychu'r cyfarfodydd er mwyn sicrhau llais y proffesiwn yng Nghymru gan nad yw cyflogau nac amodau gwaith wedi cael eu datganoli.
Yng nghyfarfod wythnos diwethaf cafwyd trafodaeth ar yr ymchwil CooperGibson ar weithio y tu hwnt i Oedran Pensiwn Arferol sydd wedi ei wneud gydag ysgolion yn Lloegr ond sy'n codi materion perthnasol i athrawon yng Nghymru;
Fodd bynnag, prif neges y cyfarfod oedd y byddai adroddiad llawn yr adolygiad yr o'r Adolygiad Gweithio'n Hwyach yn cael ei gyflwyno i ni ddechrau mis Medi. Bydd ystyried canfyddiadau'r adroddiad yn allweddol wrth gynllunio'r gweithle i'r dyfodol ac i fynd i'r afael â heriau gweithio'n hirach ac yn hynach.
Bydd Dilwyn Roberts-Young yn adrodd ar yr Adolygiad Gweithio'n Hirach yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Cenedlaethol a bydd canfyddiadau'r adroddiad yn cael ei raeadru i'n haelodau yng nghyfarfodydd y Cymdeithasau Sir yn nhymor yr Hydref.