Cynhadledd Flynyddol UCAC: 4-5 Ebrill
03 Ebrill 2014
Cynhadledd Flynyddol UCAC: 4-5 Ebrill
Bydd aelodau UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau rhybudd digonol a hyfforddiant priodol wrth gyflwyno newidiadau sylweddol i system addysg Cymru. Dyna fydd thema rhai o’r cynigion fydd dan drafodaeth yng Nghynhadledd Flynyddol yr undeb yn yr Wyddgrug ar 4-5 Ebrill.
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Bydd llu o gynigion yn dod gerbron aelodau’r undeb am drafodaeth ar bynciau mae athrawon a darlithwyr Cymru’n teimlo’n gryf yn eu cylch.
“Byddwn yn croesawu siaradwyr gwadd ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.
“Mae’r Gynhadledd Flynyddol yn gyfle i aelodau UCAC fynegi barn am ddatblygiadau byd addysg a gosod yr agenda o ran ymgyrchu dros y flwyddyn i ddod.
“Yn ogystal â hynny, mae’n gyfle i bobl ymlacio, cymdeithasu a chwrdd â chydweithwyr o dros Gymru gyfan.”
Nodiadau
- Caiff y Gynhadledd Flynyddol ei chynnal yng Ngwesty’r Beaufort, Yr Wyddgrug ar 4-5 Ebrill 2014
- Bydd y rhan fwyaf o’r trafodaethau yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg
-
Bydd 5 siaradwr gwadd sef:
- Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru (Dydd Gwener 14.00)
- Nia Edwards, Delyth Jones a Meriel Parry, penaethiaid/cyn-bennaeth â chyfrifoldeb dros nifer o ysgolion yng Ngwynedd a Phowys (Dydd Gwener, 16.30)
- Huw Foster Evans, Prif Swyddog GwE, Consortiwm Addysg Gogledd Cymru (Dydd Sadwrn, 11.00)
Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael copi o’r cynigion, neu os hoffech wneud unrhyw drefniadau penodol
Dyma rai o’r prif bynciau fydd yn codi:
- Dyfodol hyfforddiant i Seicolegwyr Addysg yng Nghymru
- Amodau teg i Benaethiaid ysgolion ffederal
- Ailfeddwl y Cwrs Meistr mewn Ymarfer Addysgol i osgoi straen ar athrawon newydd gymhwyso
- Cludiant am ddim i addysg cyfrwng Cymraeg
- Amser a hyfforddiant digonol wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau sylweddol i’r system addysg ac ystyriaeth i lwyth gwaith
Dyma fydd yr amserlen:
Dydd Gwener, 4 Ebrill
14.00 Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru
14.45-16.15 Trafod cynigion
16.15 Polisïau Cyflog: Diweddariad
16.30-17.00 Dyfodol Ysgolion Ffederal yng Nghymru: siaradwyr gwadd: Meriel Parry, Delyth Jones a Nia Edwards
Dydd Sadwrn, 5 Ebrill:
09.00-10.30 - Trafod cynigion
11.00-11.45 – Siaradwr gwadd: Huw Foster Evans (Prif Swyddog GwE, Consortiwm Gogledd Cymru)
11.45-13.00 - Trafod cynigion
Am fanylion pellach cysylltwch â ni.