Croesawu datganiad y Gweinidog o blaid datganoli tâl ac amodau gwaith athrawon
02 Ebrill 2014
Croesawu datganiad y Gweinidog o blaid datganoli tâl ac amodau gwaith athrawon
Mae UCAC wedi ymateb yn gadarnhaol i ddatganiad gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, sy’n croesawu’r posibilrwydd o ddatganoli tâl ac amodau gwaith athrawon.
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Rydym yn eithriadol o falch bod y Gweinidog yn gallu gweld manteision ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn – a’i fod yn cytuno ag argymhellion y Comisiwn Silk ar y mater.
“Mae Michael Gove wrthi’n chwalu’r gyfundrefn tâl ar lefel Cymru a Lloegr – gan ddileu’r graddfeydd cyflog cenedlaethol yn llwyr.
“Barn UCAC – ac mae’n ymddangos y Gweinidog Addysg hefyd – yw bod system o dâl ac amodau gwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru yn caniatáu i ni ailsefydlu system deg, cyson a rhwydd i’w gweithredu ledled Cymru.
“Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau bod y cyfrifoldeb, a’r cyllid sy’n cyd-fynd ag e, yn cael ei ddatganoli cyn gynted â phosib, a’n bod ni’n sefydlu trefn sy’n gweithio er budd system addysg Cymru.”
Nodiadau
Am fanylion pellach cysylltwch â:
- Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. (Swyddog Polisi)