RHAI CYRSIAU DIDDOROL A DEFNYDDIOL (EDUCATION SUPPORT)
EBRILL 2024
Mae hi'n anodd credu bod tymor olaf y flwyddyn ysgol newydd ddechrau. Er bod y tymhorau'n newid, mae rhai pethau yn aros yr un fath ac yn sicr mae'r angen i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles a gofalu am iechyd meddwl a lles ein cydweithwyr yn hynod o bwysig. Mae gan Education Support nifer o gyrsiau a dosbarthiadau meistr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Byddai'n syniad bwrw golwg ar y rhestr isod. Cliciwch ar y dolenni, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y cyrsiau. (Dylid nodi mai cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg yw'r cyrsiau hyn).
GWYBODAETH SYDD WEDI DOD I LAW ODDI WRTH EDUCATION SUPPORT
Mae ein dosbarthiadau meistr nesaf a ariennir bellach ar gael i'w harchebu ar ein gwefan – ond cliciwch ar y dolenni hyn nawr i gofrestru gan fod y nifer yn gyfyngedig.
- 24 Ebrill - Sgyrsiau hyderus: sut i siarad am iechyd meddwl gyda staff ysgol
- 24 Ebrill - Creu timau sy'n iach yn feddyliol drwy arweinyddiaeth dosturiol
- 25 Ebrill - Dosbarth meistr hanfodol i holl arweinwyr ysgolion: peri-menopos a menopos mewn ysgolion
- 18 Mehefin - Dosbarth meistr hanfodol i holl arweinwyr ysgolion: peri-menopos a menopos mewn ysgolion