STRWYTHUR Y FLWYDDYN YSGOL

Chwefror 2024 

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig ac mae iddo oblygiadau pellgyrhaeddol i bob un sydd yn ymwneud â byd addysg.  

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn beth yw eich barn am dri opsiwn: 

Opsiwn 1.
Cadw'r gwyliau ysgol fel y maent - wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau Pasg, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin a chwe wythnos o wyliau haf. 

Opsiwn 2.
Newid y calendr ysgol o fis Medi 2025 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf (gyda'r gwyliau'n dechrau ar 30 Gorffennaf 2026)

Yn yr opsiwn yma, byddai 1 wythnos o wyliau’r haf yn cael ei symud i dymor yr hydref a byddai gwyliau’r haf wythnos yn fyrrach. Byddai gwyliau’r gwanwyn yn cael eu symud i ffwrdd oddi wrth y Pasg. Byddai'r ddau ddiwrnod sy'n wyliau cyhoeddus adeg y Pasg (dydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg)  yn dal i fod yn ‘ddiwrnodau i ffwrdd’ o’r ysgol.

Opsiwn 3.
Calendr ysgol newydd ar gyfer y dyfodol
- Byddai'r newidiadau yn cael eu gwneud mewn dau gam

Cam 1 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pump wythnos o wyliau haf. 

(Mae opsiwn 3 cam 1 yr un fath ag Opsiwn 2) 

Cam 2 - bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Hydref/Tachwedd, bythefnos o wyliau Nadolig, wythnos o wyliau hanner tymor ym mis Chwefror, bythefnos o wyliau ar ddiwedd tymor y gwanwyn (ddim o angenrheidrwydd yn cyd-daro â'r Pasg), bythefnos o wyliau hanner tymor ym mis Mai/Mehefin, pedair wythnos o wyliau haf. 

Yn ogystal â'r newidiadau uchod i'r gwyliau, mae'r Llywodraeth yn ystyried cael diwrnodau canlyniadau Safon Uwch a TGAU yn yr un wythnos yn ystod gwyliau'r haf ac yn holi eich barn am y cynnig hwnnw hefyd.  

Dyma'r patrwm a gynigir ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026

CYFNOD

DECHRAU           

DIWEDD

Tymor yr hydref 2025

Llun, 1 Medi

Gwener, 19 Rhagfyr  (hanner tymor cyntaf yn 7 wythnos; ail hanner tymor yn 7 wythnos)

Hanner tymor yr hydref 2025

Llun, 20 Hydref

Gwener, 31 Hydref (bythefnos o wyliau hanner tymor)

Tymor y gwanwyn 2026

Llun, 5 Ionawr

Gwener, 3 Ebrill (hanner tymor cyntaf yn 6 wythnos; ail hanner tymor yn  6 wythnos)

Hanner tymor y gwanwyn 2026

Llun, 16 Chwefror

Gwener, 20 Chwefror (wythnos o wyliau hanner tymor)

Tymor yr haf  2026

Llun, 20 Ebrill

Mercher, 29 Gorffennaf (hanner tymor cyntaf yn 5 wythnos; ail hanner tymor yn 8 wythnos a 3 diwrnod)

Hanner tymor yr haf 2026

Llun 25 Mai

Gwener 29 Mai (wythnos o wyliau hanner tymor)

Beth yw eich barn chi am y mater?  Cofiwch fanteisio ar y cyfle i fynegi eich barn.  

Am wybodaeth bellach ac am wybod sut i ymateb, ewch i:

https://www.llyw.cymru/strwythur-y-flwyddyn-ysgol