Bygythiad i Ganolfannau Iaith Gwynedd
5 Rhagfyr 2018
Bygythiad i Ganolfannau Iaith Gwynedd
Mae undeb addysg UCAC wedi mynegi ei wrthwynebiad i gynigion Cyngor Gwynedd i wneud toriadau i wasanaeth sy’n galluogi newydd-ddyfodiaid i’r ardal i gael eu trwytho yn y Gymraeg a dod yn rhan o gymuned ddwyieithog.
Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar hyn o bryd gyda staff y Canolfannau Iaith yngl?n ag ail-strwythuro.
Yn ôl Ioan Rhys Jones, Swyddog Maes Y Gogledd UCAC, “Nid yw’r Cyngor Sir yn cynnig unrhyw opsiwn i gadw’r gwasanaeth euraidd yma fel y mae, ac mae hynny’n hynod siomedig.
“Byddai unrhyw un o’r opsiynau sy’n cael eu cynnig yn cael effaith negyddol ar safon y dysgu a/neu ar y niferoedd sy’n gallu manteisio ar y cyfle gwerthfawr hwn.
“Oherwydd dwyster y cwrs a’r disgwyliadau sydd ar yr athro a’r disgyblion, yn ôl yr arbenigwyr mae cymhareb 1 athro i 8 disgybl yn angenrheidiol. Dyma’r model sydd yn ei le ar hyn o bryd, ond nid oes unrhyw un o’r opsiynau’n caniatáu i hynny barhau. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o’r cynigion yn golygu dyblu nifer y disgyblion i bob athro.
“Pryderwn mai effaith y newidiadau fydd ei bod hi’n llawer anoddach trosglwyddo’r iaith yn effeithiol. Ac yn ei dro bydd hynny’n rhwystro plant Gwynedd rhag derbyn addysg Gymraeg a theimlo’n rhan o’r gymuned ddwyieithog ehangach.
“Mae UCAC yn gresynu nad oes gan Gyngor Gwynedd yr ewyllys i sicrhau parhad y gwasanaeth effeithiol hwn yn ei gyfanrwydd, ac nad oes ymdrech wedi’i wneud i ddarganfod y cyllid i’w gynnal.
“Pa obaith sydd gennym o gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 pan na allwn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg newydd yn ymuno ag addysg Gymraeg - a hynny yng nghadarnleoedd yr iaith yng nghymunedau Gwynedd?”
DIWEDD
Nodiadau
- Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
- Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.