5 Rhagfyr 2018
5 Rhagfyr 2018
Ar Ddydd Iau, Tachwedd, 29ain, mynychodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, gyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd.
Roedd yn gyfle, gyda chynrychiolwyr o undebau eraill, i fwrw trosolwg ar yr heriau cyllido sy’n bodoli ym mhob cwr o Gymru. Cytunwyd yn y cyfarfod bod angen i gynrychiolwyr y cyflogwyr a chynrychiolwyr y cyflogai sefydlu patrwm o gyfarfodydd ynghyd â sicrhau bod cyfathrebu clir yn digwydd rhwng yr undebau a’r Gymdeithas.
Rhydd perthynas o’r fath gyfleoedd i ni anfon negeseuon cyson i Lywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau o ran cyllido gan sicrhau bod unrhyw arian yn cyrraedd yn y mannau fydd yn mynd i’r afael â phryderon ein haelodau.
Athrawon ac arweinyddion ysgol yw adnoddau pwysicaf y byd addysg ac mae’n allweddol bod pwyslais ar ddiogelu swyddi ynghyd â sicrwydd nad oes tanseilio ar gyflogau ac amodau gwaith. Bydd angen dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i ryddhau arian digonol ar gyfer gwireddu’r datblygiadau eang sy’n wynebu ysgolion yn y blynyddoedd nesaf.
Mae UCAC yn croesawu’r bwriad i sicrhau perthynas fwy strwythuredig gyda’r Gymdeithas - a hynny’n unol â cheisiadau’r Undeb dros gyfnod estynedig. Rydym hefyd yn dymuno’n dda i Steve Thomas, Prif Weithredwr y Gymdeithas, ar ei ymddeoliad ar ddiwedd y flwyddyn.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. / 01970 639950