Tâl ac Amodau Gwaith: Athrawon a Phenaethiaid

18 Mai 2021 

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfyniadau am gyflogau athrawon a phenaethiaid yng Nghymru ers dwy flynedd nawr a gyhoeddwyd cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer eleni ar 29ain o Orffennaf. Mae’r Gweinidog Addysg wedi derbyn prif argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau Athrawon Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21 a wedi cynnig gwelliannau i sicrhau codiadau cyffelyb i godiadau athrawon yn Lloegr.

Mae’r Gweinidog wedi argymell:

Codiad cyflog o 8.4 % i athrawon ar ddechrau eu gyrfa.

Codiad cyflog o 3.75% i athrawon ar y brif ystod cyflog

Codiad cyflog o 2.75% i athrawon ar yr ystod cyflog uwch.

Codiadau cyflog o 2.75% i benaethiaid , dirprwyon a phenaethiaid cynorthwyol.

Codiadau cyflog o 2.75% i athrawon heb gymhwyso ac i athrawon sydd yn ymarferwyr arweiniol.

Codiad cyflog o 2.75% i’r holl lwfansau

Mae'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2020 (y Ddogfen) yn amlinellu'r newidiadau i gyflogau ac amodau gwaith athrawon eleni ac yn cynnwys y graddfeydd cyflog ar gyfer yr ystodau cyflog a lwfansau amrywiol.

Dyma fersiwn Gymraeg y ddogfen: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-11/dogfen-cyflog-ac-amodau-athrawon-ysgol-cymru-2020.pdf

Mae’r prif newidiadau a wnaed i’r Ddogfen a’r canllawiau ategol ers 2019 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarniad cyflog mis Medi 2020, ac yn diwygio’r ddogfen i gael gwared ar gyfeirio at ddatblygiad cyflog ar sail perfformiad i athrawon ac ailgyflwyno graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol.

Yn dilyn cyfnod ymgynghorol, mae’r Ddogfen yn statudol erbyn hyn ac athrawon a penaethiaid wedi derbyn codiadau cyflog wedi eu ôl ddyddio i Fedi 1af 2020.

Mae UCAC wedi bod mewn trafodaethau gyda consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i gytuno ar bolisïau cyflog wedi eu seilio ar Ddogfen Cyflog Ac Amodau Athrawon 2020.

Er fod UCAC yn croesawu nifer o’r datblygiadau hyn, mae UCAC yn pwysleisio i’r Llywodraeth fod athrawon wedi dioddef blynyddoedd o ddirywiad cyflog a bod angen codiadau cyflog sylweddol dros y blynyddoedd i ddod i adref cyflogau’r proffesiwn o gymharu a gyrfaoedd eraill i raddedigion. Mae cydnabyddiaeth cyflog yn fater allweddol wrth fynd i'r afael â phroblemau recriwtio a chadw a dilyniant gyrfaol.  Mae UCAC hefyd o’r farn bod angen mynd i'r afael â llwyth gwaith a'r gwahanol lefelau o atebolrwydd fel mater o flaenoriaeth.

Mae gan UCAC wrth gwrs nifer o daflenni gwybodaeth ar amodau gwaith athrawon ar ein gwefan.

Mae croeso mawr wrth gwrs i chi gysylltu gyda’r brif swyddfa neu yn uniongyrchol gyda swyddogion maes UCAC os ydych am drafod unrhyw agwedd ar gyflogau, bensiynau neu amodau gwaith.