UCAC yn mynegi pryder difrifol am drefniadau asesu’r haf

22 Mawrth 2021 

Mae UCAC wedi anfon llythyron at y Gweinidog Addysg ac at Gomisiynydd Plant Cymru yn mynegi pryderon difrifol am drefniadau asesu haf 2021.

Er bod UCAC wedi croesawu dileu arholiadau, mae datblygiadau dros y dyddiau diwethaf wedi arwain at ofid am ba mor gymesur mae’r trefniadau o ran y baich ar ddisgyblion ac ar ysgolion.