UCAC yn croesawu gweledigaeth newydd ar gyfer arolygu ysgolion
6 Mehefin 2018:
Embargo: 7 Mehefin, 00:01
UCAC yn croesawu gweledigaeth newydd ar gyfer arolygu ysgolion
Yn sgil cyhoeddi adroddiad gan yr Athro Graham Donaldson heddiw ynghylch rôl a dulliau gweithredu Estyn, mae undeb addysg UCAC wedi croesawu’r weledigaeth a amlinellir.
Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC:“Mae UCAC yn croesawu’r adroddiad hwn a’r weledigaeth mae’n ei chynnig ar gyfer trefniadau arolygu ysgolion.
“Mae newidiadau sylweddol iawn ar y gweill i system addysg Cymru, ac mae ail-edrych ar rôl Estyn yn y cyd-destun hwn yn un elfen bwysig o sicrhau gweithredu cyson, ar y cyd ar draws y system.
“Efallai nad yw’n syndod fod argymhellion yr Athro Donaldson yn gwbl gydnaws â chyfeiriad ac ethos y diwygiadau’n fwy cyffredinol. Maent yn taro cydbwysedd rhwng parhau i roi sicrwydd i’r cyhoedd ynghylch safonau addysg, a rhoi mwy o gyfrifoldeb ar ysgolion dros eu gwelliant eu hunain.
“Mae’r pwyslais ar ymddiriedaeth, cydweithio, cefnogaeth a dysgu proffesiynol – yn hytrach na strategaeth o ofn a braw, a chywilyddio cyhoeddus - i’w groesawu’n fawr iawn. Mae UCAC yn ffyddiog y bydd hyn yn creu system llawer fwy agored, gonest ac aeddfed fydd yn fwy tebygol o arwain at welliannau ar gyfer disgyblion.
“Mawr obeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru ac Estyn ei hun yn derbyn yr argymhellion.”
DIWEDD
Nodiadau
- Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.