Tystysgrif Her Sgiliau – undeb yn croesawu argymhellion
24 Ebrill 2018
Tystysgrif Her Sgiliau – undeb yn croesawu argymhellion
Yn sgil cyhoeddi adroddiad a gomisiynwyd gan Cymwysterau Cymru i’r Dystysgrif Her Sgiliau o fewn Bagloriaeth Cymru, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC:
“Mae UCAC yn croesawu’r adroddiad hwn sy’n cydnabod y gwrthdaro sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng gwerth aruthrol y Dystysgrif Her Sgiliau ar y naill law, a’r dryswch a chamddeall yn ei chylch ar y llall.
“Mae prif negeseuon ac argymhellion yr adroddiad yn cyd-fynd â’r hyn mae aelodau UCAC wedi bod yn adrodd ers cryn amser, sef bod elfennau o ddyluniad a chynllun asesu’r cymhwyster yn drwsgl ac yn feichus - a hynny i ddysgwyr ac i athrawon. Croesawn yn fawr y pwyslais yn yr adroddiad ar wella cyfathrebu a chyfleoedd hyfforddiant i athrawon, gan gynnwys o fewn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon.
“Galwa UCAC ar yr holl bartneriaid perthnasol i weithredu ar argymhellion yr adroddiad er mwyn sicrhau bod elfen Tystysgrif Her Sgiliau’r Fagloriaeth mor atyniadol ac mor fuddiol â phosib i gynifer â phosib o ddisgyblion ledled Cymru.”
DIWEDD
Nodiadau
- Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.