UCAC yn croesawu cynllun gweithredu addysg ‘Cenhadaeth ein cenedl’

26 Medi 2017

UCAC yn croesawu cynllun gweithredu addysg ‘Cenhadaeth ein cenedl’

Mae undeb athrawon UCAC wedi rhoi croeso i gyhoeddiad cynllun gweithredu Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl a lansiwyd heddiw.

Mae’r ddogfen yn gosod blaenoriaethau ar gyfer system addysg Cymru o 2017 hyd at 2021 a hynny yng nghyd-destun ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol’ a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC “Mae’r cynllun gweithredu’n hwn yn chwa o awyr iach. Mae’n taro cydbwysedd rhwng uchelgais a phwyll. Mae’n amlinellu newidiadau dwfn a phellgyrhaeddol, ond mae’r dulliau o gyrraedd y nod, a’r amserlenni’n ymddangos yn realistig.

“Rhoddir pwyslais ar symud ymlaen trwy gydweithrediad, cefnogaeth a pharch at bawb ar bob lefel o’r system addysg - gan symud i ffwrdd o rai o’r agweddau mwy bygythiol a fu yn y gorffennol – prosiect ar y cyd yw hwn, gyda chyfrifoldeb wedi’i rannu.

“Croesawn yr eglurder a roddir – am y tro cyntaf – ynghylch cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Mae’n amserlen sy’n caniatáu’r amser angenrheidiol i lunio a phrofi’r cwricwlwm yn ofalus, i ymgyfarwyddo a hyfforddi, ac i gynllunio’n bwyllog ar gyfer unrhyw newidiadau i gymwysterau a ddaw yn ei sgil.

“Mae’r ymagwedd newydd tuag at asesu ac atebolrwydd, ble mae’r pwyslais ar ‘asesu ar gyfer dysgu’ yn hytrach na chreu cymariaethau artiffisial rhwng ysgolion yn gam arall arbennig o gadarnhaol.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio, fel ffrind beirniadol, dros y bedair blynedd nesaf a thu hwnt.”

Nodiadau
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli 5,000 o athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.