UCAC yn cefnogi pobl Catalwnia

2 Hydref 2017

UCAC yn cefnogi pobl Catalwnia

Dangosodd UCAC ei gefnogaeth i bobl Catalwnia nos Lun 2 Hydref ar Sgwâr Glyndwr, Aberystwyth ymhlith torf o ddegau o bobl.

Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC "Mae'r digwyddiad yma - a rhai tebyg dros Gymru a thu hwnt - yn arwydd o undod yn erbyn trais ac o blaid yr hawl i fynegi barn ac ymarfer hawliau democrataidd.

"Mae'n eithriadol o bwysig codi llais yn erbyn anghyfiawnder boed yn agos at adref neu ymhellach i ffwrdd.

"Mae'r rhain yn werthoedd sylfaenol i undebau llafur dros y byd i gyd."