Cyhoeddi canlyniadau arolwg recriwtio a chadw UCAC
27 Mawrth 2017
Cyhoeddi canlyniadau arolwg recriwtio a chadw UCAC
Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau arolwg o aelodau UCAC ar recriwtio a chadw, mae UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael, yn strategol ac ar frys, â lleihau llwyth gwaith gormodol a’r straen aruthrol sydd yn wynebu’r proffesiwn.
“Mae llwyth gwaith gormodol yn cael effaith ddifrifol ar athrawon. Mae’n gosod straen annerbyniol arnynt ac yn effeithio ar eu canfyddiad o addysgu fel gyrfa”, medd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
Ymatebodd dros 450 o athrawon i’r arolwg mewn cyfnod o wythnos ac mae’r canlyniadau’n dangos bod:
- 70% o ymatebwyr wedi ystyried gadael y proffesiwn yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf
- 54% o’r ymatebwyr yn chwilio am swydd nad yw’n swydd addysgu
- 30% eisoes wedi ymgeisio am swydd nad yw’n swydd addysgu
Atebodd 368 o athrawon gwestiwn am ba mor hir yr oeddent yn bwriadu parhau i weithio o fewn y proffesiwn. Dim ond 31% oedd yn golygu parhau i addysgu tan eu bod yn ymddeol. Roedd 36% yn rhagweld y byddent yn parhau i weithio am 2 – 5 mlynedd arall yn unig, ac 19% yn rhagweld y byddent yn parhau i weithio am 5 – 10 mlynedd arall.
“Mae’r arolwg yn rhoi darlun clir o bryderon aelodau am y proffesiwn ac mae’r canlyniadau’n adlewyrchiad o ddymuniad canran sylweddol o athrawon Cymru i weld lleihad mewn llwyth gwaith er mwyn osgoi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i adael y proffesiwn a newid llwybr gyrfa”, medd Elaine Edwards. “Mae nifer helaeth eisoes wedi cymryd y penderfyniad anodd hwn”.
“Cred UCAC bod y proffesiwn mewn argyfwng ar hyn o bryd. Mae problemau cyllido ysgolion yn arwain at ddiswyddiadau a llwyth gwaith ychwanegol i’r sawl sy’n parhau i weithio; mae’n gyfnod o newid aruthrol. Mae addysg yng Nghymru yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid ac mae’r ymarferwyr (athrawon ac arweinwyr ysgol) wedi ymlâdd, yn ddrwgdybus o’r holl fesurau perfformiad a systemau atebolrwydd, ac yn dioddef o straen enbyd sydd yn aml yn effeithio ar eu hiechyd. Mae’r gallu i recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru dan fygythiad difrifol. Mae UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn strategol i’n pryderon a darganfod ffyrdd real i leihau llwyth gwaith yn sylweddol – er lles pob athro a phob disgybl.”
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Elaine Edwards ar 01970 639 950 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.