Cyfieithu Papurau Arholiad yn annerbyniol
27 Mehefin 2014
Cyfieithu Papurau Arholiad yn annerbynniol
Mewn ymateb i’r newyddion bod bwrdd arholi Edexcel yn bwriadu cyfieithu papurau arholiad disgyblion o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn eu marcio gan arholwyr di-Gymraeg, dywedodd Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC "Mae UCAC yn gresynu at y penderfyniad hwn gan Edexcel.
“Gwyddom fod elfen sylweddol o ddehongliad a barn wrth gyfieithu o un iaith i’r llall – nid yw’n broses fecanyddol, oeraidd. Felly nid oes modd gwarantu bod cyfieithiad o bapur arholiad yn cyfleu union ystyr a bwriad y disgybl. Gallai marcio cyfieithiadau o bapurau arwain at gamddehongli a marcio annheg ac anghyson.
“Os nad yw corff dyfarnu’n gallu ymdopi â gofynion cynnig cymhwyster yn y Gymraeg, ni ddylent fod yn cynnig y gwasanaeth yn y lle cyntaf. Rydym yn sicr na fyddai ysgolion yn dewis y cymhwyster petai nhw’n gwybod mai bwriad y bwrdd arholi oedd marcio cyfieithiad o’r sgriptiau."
Am fanylion pellach cysylltwch â Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.