Croeso i ddisgyblion ac i fuddsoddiad
9 Gorffennaf 2020
Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb i ddatganiad y Gweinidog Addysg heddiw ynghylch ail-agor ysgolion ym mis Medi.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae penaethiaid ac athrawon wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod trefniadau’r cyfnod ail-agor ysgolion yn creu amgylchedd diogel i ddisgyblion. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd wedi digwydd trwy gydol y cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.
“Gyda datganiad y Gweinidog Addysg gallwn fynd ati i groesawu disgyblion yn ôl i’n hysgolion ym mis Medi ac rydym yn edrych ymlaen at weld cyhoeddi’r canllawiau ar gyfer ail-agor. Fodd bynnag, gyda’r canllawiau’n cael eu cyhoeddi mor hwyr yn y dydd bydd angen peth amynedd wrth baratoi ar gyfer yr ail-agor yn ystod wythnosau cyntaf tymor yr hydref.
“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad mewn swyddi newydd. Bydd angen cynllunio gofalus er mwyn ymateb i anghenion ysgolion a sicrhau cyfleoedd i athrawon llanw a newydd gymhwyso.
“Rydym yn croesawu bod y Gweinidog Addysg yn cydnabod gwaith arwrol penaethiaid, athrawon a holl staff ysgolion dros y misoedd diwethaf. Bydd UCAC yn parhau i gydweithio ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i sicrhau lles ein haelodau wrth iddynt sicrhau addysg o'r radd flaenaf i’r disgyblion.”
Nodiadau
- Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
Am fanylion pellach cysylltwch â: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.