BWRSARIAETH CADW ATHRAWON CYMRAEG MEWN ADDYSG
Medi 2025
Ydych chi'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n addysgu Cymraeg fel pwnc mewn ysgol uwchradd?
Efallai fod cyfle i chi dderbyn bwrsariaeth o £5,0000.
Darllenwch isod i weld a ydych yn gymwys.
BWRSARIAETH CADW ATHRAWON CYMRAEG MEWN ADDYSG
Pwy sy’n gymwys?
I fod yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth, rhaid i athrawon fodloni’r meini prawf craidd canlynol:
- ennill statws athro cymwysedig (SAC) o fis Awst 2020 ymlaen
- wedi cwblhau 3 blynedd o addysgu yn dilyn dyfarniad SAC
- wedi cychwyn ar 4edd flwyddyn o addysgu
- wedi cwblhau naill ai 3 blynedd o addysgu Cymraeg fel pwnc mewn unrhyw ysgol uwchradd neu ysgol ganol a gynhelir yng Nghymru neu unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol uwchradd neu ysgol ganol cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a gynhelir
Mae’r meini prawf yn berthnasol i athrawon llawn-amser a rhan-amser, lle bynnag y maent ar y raddfa gyflog athrawon a p’un ai eu bod yn cael lwfansau cyfrifoldebau ychwanegol neu beidio.
Nid yw athrawon mewn ysgolion annibynnol, colegau chweched dosbarth neu sefydliadau addysg bellach yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth.
Sut i wneud cais
Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 1 Medi 2025 ac yn cau ar 30 Medi 2025.
I wneud cais, rhaid i athrawon lenwi’r ffurflen gais. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Mae’n rhaid i athrawon gyflwyno cais o fewn 2 flynedd o fod wedi cyrraedd y 3 blynedd angenrheidiol o wasanaeth.
Manylion talu
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £5,000 yn ystod eu 4edd flwyddyn o addysgu, gyda Llywodraeth Cymru yn talu’r holl gyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol. Nid yw’r fwrsariaeth yn bensiynadwy.
Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais ar wefan Llywodraeth Cymru neu trwy gysylltu ag Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..