EDUCATION SUPPORT - DOSBARTHIADAU MEISTR
Awst 2024
Gwybodaeth am ddosbarthiadau meistr a gynhelir ym mis Medi 2024.
Ydych chi wedi bod ar un o ddosbarthiadau meistr rhyngweithiol Education Support? Os nad ydych, peidiwch â phoeni - dyma eich cyfle!
Mae dosbarthiadau meistr lles rhyngweithiol Education Support yn ôl ar gyfer mis Medi! Ariennir y lleoedd gan Lywodraeth Cymru, heb unrhyw gost i staff.
DYDDIAD AC AMSER
- Medi 20fed, 09.30-12.00
CYNNWYS
- Lles a llwyth gwaith: sut i reoli eich llwyth gwaith mewn lleoliad addysg, gan ofalu amdanoch eich hun ar yr un pryd
Yn ystod y dosbarth meistr cefnogol a chyfrinachol hwn byddwch yn:
- Rhoi sylw i'r hyn yr ydych yn angerddol yn ei gylch a phwrpas eich rôl, er mwyn eich atgoffa pam y daethoch i'r proffesiwn yn y lle cyntaf.
- Archwilio ymchwil a theori sy'n gysylltiedig â llwyth gwaith megis 'gweithio'n gallach nid yn galetach', damcaniaeth 'ymateb dos', y 'ffenestr oddefgarwch', enillion ymylol a'r cysyniad o gynhyrchiant. Byddwch yn archwilio'r theori a'r strategaethau cysylltiedig y gallwch eu rhoi ar waith i reoli llwyth gwaith addysgu yn well.
- Ystyried yr arwyddion a ddaw yn sgil 'gorweithio' a sut mae osgoi mynd i'r cyflwr hwnnw
- Archwilio'r ffordd orau o ofalu am eich lles yn ystod y tymor prysur ac yn ystod adegau anodd i chi
Ar gyfer pwy mae'r dosbarth meistr hwn?
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym myd addysg, ond yn enwedig y rhai sy’n teimlo eu bod wedi eu llethu gan lwyth gwaith, gan gynnwys athrawon sy’n ei chael hi’n anodd teimlo eu bod yn athrawon llwyddiannus, gan lwyddo ar yr un pryd i ofalu am eu lles.