Bygythiad i gwricwlwm newydd Cymru yn sgil toriadau
24 Tachwedd 2015
Bygythiad i gwricwlwm newydd Cymru yn sgil toriadau
Mae UCAC, un o brif undebau addysg Cymru, wedi mynegi pryder ynghylch toriadau llym a ddisgwylir yn Adolygiad Gwariant Llywodraeth San Steffan ddydd Mercher.
Mae’r undeb yn rhybuddio am effeithiau andwyol y toriadau arfaethedig ar wasanaethau cyhoeddus, ac ar addysg yn arbennig.
Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Gwyddom yn barod fod Awdurdodau Lleol yn paratoi eu hysgolion am doriadau o tua 16% dros dair blynedd. Yr unig ffordd o wneud arbedion ar y lefel honno yw diswyddo staff – a hynny mewn cyfnod pan mae nifer y disgyblion ar gynnydd.
“Dosbarthiadau mwy o faint yw'r canlyniad amlwg – ond beth yw sgil effeithiau hynny? Llai o sylw i ddisgyblion unigol, mwy o straen ar athrawon, ac yn y pendraw, gostyngiad mewn safonau addysgol.”
Rhybuddia’r undeb y gallai rhai o ddatblygiadau cyffrous Llywodraeth Cymru fod dan fygythiad yn sgil y toriadau.
“Rydym ar drothwy cyfnod cyffrous ym myd addysg Cymru, gydag ailwampiad llwyr o’r cwricwlwm a newidiadau pellgyrhaeddol i’r system anghenion dysgu ychwanegol” esbonia Elaine Edwards. “Er mwyn gwneud llwyddiant o’r newidiadau hyn, rhaid cael gweithlu brwdfrydig, egnïol, a rhaid buddsoddi mewn hyfforddiant trylwyr i’r holl staff. Sut bydd hynny’n bosib gyda thoriadau o’r fath?
“I fynd i'r afael â'r heriau hyn, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru amddiffyn y gyllideb addysg.”
Dywed UCAC bod system addysg Cymru’n dioddef ergyd ddwbl. Yn gyntaf, gan bolisïau llymder Llywodraeth San Steffan. Ac yn ail, sgil effeithiau ariannu drwy’r fformiwla Barnett pan mae system ysgolion Lloegr, i bob pwrpas, yn cael ei dadreoleiddio - tra bod Cymru’n credu mewn system addysg deg a chydradd, cyhoeddus i bawb.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Rebecca Williams ar 01970 639 950.