Ail-agor graddol – angen camu’n ofalus

29 Ionawr 2021 

Mewn ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw y gallai’r plant ieuengaf ddechrau dychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor mis Chwefror os bydd cyfraddau’r coronafeirws yn parhau i ostwng, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae pawb yn awyddus i weld ysgolion a cholegau’n dychwelyd at ddysgu wyneb-yn-wyneb pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny – mae manteision lu i hynny o safbwynt plant, pobl ifanc, teuluoedd a staff.

“Croesawn y ffaith y bydd penderfyniad terfynol ynghylch unrhyw ddychweliad graddol a hyblyg yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf. Nodwn yr angen i sicrhau rhybudd digonol i ysgolion a cholegau fedru rhoi’r trefniadau priodol yn eu lle, a hynny cyn hanner tymor.

“Byddwn yn parhau i drafod gyda’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach i sicrhau bod unrhyw ddychweliad mor ddiogel â phosib i bawb. Yn y trafodaethau hyn byddwn ni’n  bendant yn codi pwysigrwydd brechu staff yn ogystal â sicrhau cefnogaeth i iechyd meddyliol, emosiynol a chorfforol staff a disgyblion.”