Croesawu penderfyniad ar sail feddygol
08 Ionawr 2021
Mae UCAC yn croesawu datganiad Llywodraeth Cymru heddiw na ddylai ysgolion a cholegau ddysgu wyneb yn wyneb am y tro.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r penderfyniad wedi’i seilio ar wybodaeth feddygol ac yn cadw at egwyddor allweddol y Gweinidog Addysg mai ‘tystiolaeth a gwybodaeth’ yw’r unig fodd o ennill ‘hyder rhieni, staff a myfyrwyr’.
“Bydd datganiad cynnar yn rhoi peth cyfle i ysgolion a cholegau gynllunio ymlaen llaw ar gyfer sicrhau addysg ar gyfer disgyblion a myfyrwyr. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i rieni wneud trefniadau priodol gan gofio y bydd nifer sylweddol o staff ysgol eu hunain yn rhieni.
“Mae UCAC wedi ymrwymo i weithio ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i sicrhau y bydd staff a disgyblion yn gallu dychwelyd i’r ysgol a’r coleg pan mae’n ddiogel i wneud hynny.”