UCAC yn derbyn ymateb i'r llythyr at yr enwadau
1 Hydref 2015
UCAC yn derbyn ymateb i'r llythyr at yr enwadau
Yn dilyn anfon llythyr chwyrn at y papurau enwadol a gyhoeddodd erthygl olygyddol yn ymosod ar athrawon Cymru, mae UCAC wedi derbyn yr ymateb isod.
Annwyl Ms Elaine Edwards,
Diolch i chwi am y neges a dderbyniais gennych ddoe.
Y mae wedi bod yn ofid mawr i ni fel Pwyllgor fod sylwadau o eiddo Golygydd y Pedair Tudalen Gydenwadol wedi aflonyddu ar gymaint o bobl. Gallaf eich sicrhau nad yw’r sylwadau hynny yn adlewyrchu barn neb arall ohonom a’n bod yn gweithio’n ddyfal i ddad-wneud y difrod a’r niwed sydd wedi ei wneud, ac i ddwyn y bennod anhapus hon tua’i therfyn.
Yn ddiffuant,
Geraint Tudur
Ysgrifennydd Pwyllgor y Pedair Tudalen