UCAC i streicio ar 26 Mawrth 2014
07 Chwefror 2014
UCAC i streicio ar 26 Mawrth
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cynnal streic undydd ar ddydd Mercher 26 Mawrth 2014.
Bydd aelodau’r undeb sy’n athrawon ysgol yn gweithredu’n ddiwydiannol fel rhan o anghydfod yr undeb gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Michael Gove
ynghylch tâl a phensiynau athrawon.
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae Michael Gove wedi chwalu’r system dâl ar gyfer yr athrawon yn llwyr, ac mae e
wedi gwneud newidiadau i bensiynau fydd yn effeithio’n negyddol ar y system addysg.
“Rydym yn falch o gael gydweithio gyda’r NUT ar fater sydd mor bwysig I athrawon ledled Cymru, ac i’r system addysg yn ei chyfanrwydd.”
Bydd UCAC mewn trafodaethau gyda Michael Gove dros yr wythnosau nesaf. Y gobaith yw y bydd modd osgoi’r angen i streicio, os bydd y trafodaethau’n rhai
adeiladol.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 07787 572180