Pynciau llosg byd addysg dan drafodaeth yng Nghynhadledd UCAC

04 Ebrill 2019

Pynciau llosg byd addysg dan drafodaeth yng Nghynhadledd UCAC

Ar 5-6 Ebrill, bydd UCAC, un o brif undebau addysg Cymru, yn cynnal ei Gynhadledd Flynyddol yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Bydd athrawon o bob cwr o Gymru’n ymgynnull er mwyn trafod dros 30 o gynigion ar bynciau llosg byd addysg Cymru gan gynnwys:

  • ariannu ysgolion
  • tryloywder y consortia rhanbarthol
  • calendr ysgol sefydlog
  • recriwtio a chadw penaethiaid
  • dulliau trochi ac ariannu Canolfannau Iaith
  • iechyd a lles emosiynol disgyblion a staff ysgol

Yn ogystal â’r trafodaethau bydd nifer o siaradwyr gwadd, gan gynnwys:

  • Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru
  • Guto Aaron, ymgynghorydd a hyfforddwr Technoleg Addysg, Arloeswr a Hyfforddwr ardystiedig gyda Google for Education, Cyfarwyddwr @Twt360
  • Tracey Jones, Chrysalis, sy’n helpu athrawon ac addysgwyr i wella eu hiechyd a’u lles drwy feithrin strategaethau ymdopi ar gyfer ymdrin â phwysau bob dydd
 
Meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Dyma gyfle i aelodau’r undeb osod eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod – i godi pryderon, i fynnu gwelliannau ac i gynnig syniadau ar gyfer y system addysg rydym ni am ei gweld yng Nghymru.

“Mae’n amlwg bod ariannu ysgolion a llwyth gwaith eithafol yn uchel iawn ar y rhestr o faterion sy’n peri gofid difrifol i athrawon a phenaethiaid ar hyn o bryd. Mae’n gwbl glir nad oes digon o arian yn cyrraedd ein hysgolion i ddarparu’r gwasanaethau sylfaenol erbyn hyn. Mae cwestiynau mawr i’w gofyn ynghylch sut mae arian yn cael ei ddyrannu, gwerth am arian a diffyg tryloywder difrifol.

“Nawr bod y p?er dros dâl ac amodau gwaith athrawon wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, rydym yn disgwyl gweld camau i daclo llwyth gwaith eithafol athrawon a phenaethiaid – a’r effaith mae hynny’n ei gael ar iechyd a lles y gweithlu.

“Mae’n hanfodol bod y negeseuon ynghylch y sefyllfa ar lawr gwlad yn cyrraedd clustiau’r rhai sy’n llywio byd addysg ond nad ydynt yn profi’r realiti o ddydd i ddydd.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.
  • Cynhelir y Gynhadledd Flynyddol yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod ar 5-6 Ebrill 2019
  • Bydd ffrwd Trydar byw ar @AthrawonCymru gan ddefnyddio’r hashnod #cynhadleddUCAC
  • Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael copi o’r amserlen, y cynigion, neu os hoffech wneud unrhyw drefniadau penodol

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.