Pryderon difrifol am gapasiti ysgolion – ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Athrawon
5 Hydref 2020
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams heddiw – Diwrnod Rhyngwladol yr Athrawon – i fynegi pryderon difrifol am yr amgylchiadau sy’n wynebu athrawon Cymru ar hyn o bryd.
Dywedodd “Mae’n gwbl glir i ni nad yw’n ymarferol bosib i athrawon fod yn dysgu wyneb-yn-wyneb yn yr ysgol, ac yn paratoi ac yn darparu gwaith i wneud adre a/neu ddysgu ar-lein - naill ai’n fyw neu wedi’i recordio.
“Mae capasiti llawer ehangach o fewn y system addysg na staff ysgolion yn unig, ac rydym wedi ein darbwyllo mai nawr yw’r amser i edrych yn ofalus ar sut orau i ddefnyddio’r capasiti hwnnw.”
Cyfeiriodd at rôl greiddiol athrawon cyflenwi, a’r angen i’w trin yn deg ac â pharch – ac i ariannu ysgolion yn ddigonol i’w cyflogi.
Yn ogystal, nododd faint o athrawon cymwys sy’n gweithio yn y consortia rhanbarthol, rhai awdurdodau lleol ac yn Estyn.
Pwysodd ar y Gweinidog i “roi ystyriaeth fanwl ac o ddifrif i sicrhau bod capasiti a threfniadaeth ddigonol i sicrhau addysg gyson, ddi-dor i ddisgyblion am weddill y tymor ysgol hwn a thu hwnt, a bod y cyfrifoldeb dros wneud hynny yn cael ei rannu mewn modd sy’n rhesymol ac yn effeithiol.”