Pryder difrifol am ail-agor ysgolion

3 Mehefin 2020

Pryder difrifol am ail-agor ysgolion

Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad y Gweinidog Addysg heddiw bod ysgolion yn mynd i ail-agor yn raddol i bob disgybl o 29 Mehefin. 

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae’r undebau addysg wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru ers dechrau’r argyfwng, gan gynnwys ynghylch ail-agor ysgolion. Gyda’n gilydd, mae’r proffesiwn wedi llwyddo i ddarparu’n arwrol ar gyfer disgyblion Cymru yn ystod y cyfnod helbulus hwn.

“Fodd bynnag, rydym yn gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ail-agor cyn yr haf.

“Mae’r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm â cheisio sicrhau bod hyd yn oed nifer bychan o ddisgyblion yn dychwelyd cyn yr haf yn eithriadol o gymhleth – heb sôn am geisio sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddychwelyd. Mae creu amgylchedd mor ddiogel â phosib i bawb tra’n cynnal awyrgylch groesawgar a chefnogol yn her anferthol.

“Rydym yn gwbl ymwybodol o’r manteision posib i ddisgyblion o ddychwelyd am rywfaint cyn yr haf, ond rhaid cydbwyso’r manteision posib hynny gyda’r risgiau – i’r disgyblion eu hunain, i staff ac i gymunedau ehangach yr ysgolion.

“Yn syml iawn, po fwyaf o blant, mwya’r risg. 

“Ac o geisio rhoi sylw i bawb, mi fydd yn anoddach byth sicrhau’r sylw haeddiannol i’r disgyblion hynny sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr, sef blynyddoedd 6, 10 a 12. 

“Gwyddom y bydd lefelau uchel iawn o bryder ymhlith athrawon ac arweinwyr ysgol wrth glywed cyhoeddiad y Gweinidog heddiw.

“Byddwn yn pwysleisio pryderon ein haelodau yn ysgrifenedig ac mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru yn y modd cryfaf posib.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â ni: 01970 639950 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.