Prinder adnoddau Cymraeg
19 Gorffennaf 2017
Prinder adnoddau Cymraeg i gyd-fynd â chymwysterau
Dros yr wythnosau diwethaf, mae UCAC wedi bod yn casglu gwybodaeth gan aelodau ynghylch prinder adnoddau Cymraeg i gyd-fynd â chymwysterau, ac ers hynny mae Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC wedi bod yn gweithredu ar y mater.
Dyma grynodeb o'r datblygiadau diweddaraf:
- Cafwyd cyfarfod buddiol gyda swyddogion Adran Addysg Llywodraeth Cymru ar 5 Gorffennaf; aethpwyd trwy'r rhestr o feysydd prinder a nodwyd gan aelodau UCAC.
- Yn dilyn y cyfarfod uchod rydym wedi anfon rhestr wedi'i diweddaru o'r meysydd prinder, ac mae'r swyddogion yn mynd i nodi'n ysgrifenedig y sefyllfa mewn perthynas â phob pwnc a chymhwyster
- Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr wedi'i diweddaru o'r holl adnoddau Cymraeg perthnasol ar gyfer cymwysterau ar ddechreuodd yn 2015, 2016 ac sy'n mynd i ddechrau ym mis Medi eleni. Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'r rhestr.
- Mae Rebecca Williams, Swyddog Polisi UCAC wedi llunio adroddiad sy'n crynhoi'r problemau, y sgil-effeithiau a'r prif feysydd prinder ac wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC. Cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad.
Bydd UCAC yn cadw mewn cysylltiad gyda'i haelodau pan fydd datblygiadau pellach. Cysylltwch hefyd os oes gennych chi wybodaeth bellach i'w rhannu.