Gwell pwyllo na rhuthro, meddai UCAC
Gwell pwyllo na rhuthro, meddai UCAC
Mewn ymateb i gyhoeddiad gan Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC ar 17 Medi ynghylch gohirio cyflwyno’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd am flwyddyn, mae undeb athrawon UCAC wedi dweud ei fod yn cytuno ei fod yn well pwyllo.
Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Er bod y cyhoeddiad yn annisgwyl, mae UCAC yn croesawu’r flwyddyn ychwanegol i sicrhau y caiff y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ei gyflwyno mewn modd trefnus ac effeithiol.
“Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ganllaw hollbwysig ar gyfer pawb sy’n ymwneud â’r system, ac mae’n eithriadol o bwysig ei fod yn addas at y pwrpas. Mae nifer o faterion ble bydd modd elwa o’r amser ychwanegol i sicrhau trafodaeth lawn a manwl ac i gytuno ar egwyddorion craidd.
“Yn ogystal, gall y flwyddyn ychwanegol roi amser i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru edrych ar dâl ac amodau gwaith Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r gofynion newydd.
“Pan mae diwygiadau mawr ar y gweill, mae UCAC o’r farn ei fod yn well pwyllo a’u gwneud yn gywir. Felly pwyswn ar bawb i barchu’r amserlen newydd, ac i wneud yn fawr o’r cyfle i ymbaratoi’n fwy trwyadl.”