Gwaith caled athrawon yn cael ei wobrwyo
31 Ionawr 2017
Gwaith caled athrawon yn cael ei wobrwyo
Er yn parhau yn amheus iawn o broses sy’n gosod ysgol yn erbyn ysgol mae UCAC yn credu fod cyhoeddiad heddiw yn ymddangos yn bositif iawn. Mae’n dangos fod safonau yn codi yn y sector gynradd ac uwchradd.
“Mae hyn yn amlwg yn adlewyrchu gwaith caled athrawon wrth addysgu a chefnogi disgyblion o bob oedran,” meddai Ywain Myfyr, sy’n Swyddog Polisi efo’r undeb.
“Mae yn dangos ymdrechion mawr ysgolion sy’n wynebu heriau enfawr y dyddiau yma o safbwynt llwyth gwaith, diffyg adnoddau ariannol a thoriadau staffio. Wrth ystyried hyn i gyd mae’n rhyfeddol fod y sefyllfa wedi gwella. Mae’n rhaid lleisio clod mawr i’n athrawon, ein cymorthyddion dysgu a’n holl weithlu addysg am eu hymdrechion a’u gwaith diflino i gynnig y gorau i blant Cymru.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ywain Myfyr ar 01970 639 950 / Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.