Galw ar RhCT i atal proses ddiswyddo
23 Mai 2014
Galw ar RhCT i atal proses ddiswyddo
Mae UCAC yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i atal y broses o ddiswyddo unrhyw athro o fewn y sir, yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys heddiw fod penderfyniad y Cyngor i dorri addysg feithrin wedi bod yn anghyfreithlon.
Dywedodd llefarydd ar ran UCAC "Mae'r broses o ddiswyddo staff sydd wedi bod yn mynd rhagddi yn ystod y misoedd diwethaf wedi achosi straen a gofid sylweddol i'n haelodau.
“Gan fod ansicrwydd nawr ynghylch y penderfyniad gwreiddiol, galwn ar y Cyngor i atal y broses ar unwaith nes bod y sefyllfa'n gliriach."
Am fanylion pellach cysylltwch â Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.