Diwrnod Hyfforddi Ychwanegol ‘yn gam i’r cyfeiriad iawn’ meddai UCAC

5 Mawrth 2019

Diwrnod Hyfforddi Ychwanegol ‘yn gam i’r cyfeiriad iawn’ meddai UCAC

Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu’r cynnig sydd wedi’i wneud heddiw gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu diwrnod ychwanegol o Hyfforddiant mewn Swydd (HMS) y flwyddyn am y tair blynedd nesaf. Y bwriad yw bod y diwrnod ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd. Caiff ymgynghoriad ar y cynnig ei lansio heddiw.

Yn ogystal, mae’r Datganiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC yn manylu ar sut bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu ar argymhellion eraill adroddiad Yr Athro Mick Waters, ‘Addysgu: proffesiwn gwerthfawr’ a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018. Un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol fydd sefydlu Comisiwn Annibynnol i ystyried ‘ail-greu addysg’ – sef meddwl yn sylfaenol ynghylch ‘sut y byddem yn newid y system ysgolion fel ei bod yn addas i’r bywyd modern a ragwelir yn y dyfodol ar gyfer teuluoedd a chymunedau.’

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae UCAC wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth ers tro i esbonio pryd fyddai athrawon a staff eraill ysgolion yn cael amser i ymbaratoi ar gyfer y gwaith anferth o gyflwyno’r cwricwlwm newydd, gyda’r newidiadau sylfaenol mae’n ei olygu i ddulliau cynllunio, dysgu ac asesu.

“Byddai diwrnod o Hyfforddiant mewn Swydd ychwanegol y flwyddyn yn rhywfaint o help, ac yn bendant yn gam i’r cyfeiriad iawn - er y mae’n glir na fydd hynny’n ddigon yn ei hun.

“Rydym yn croesawu’r cynigion eraill yn natganiad y Gweinidog ar gyfer symud ymlaen gydag argymhellion adroddiad ‘Addysgu: Proffesiwn Gwerthfawr’. Mae sefydlu Comisiwn Annibynnol i feddwl yn agored ac o bosib yn radical am ffurf a strwythur ein system addysg yn arbennig o gyffrous. Mae’n llesol i ystyried y cwestiynau mawr o bryd i’w gilydd ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o’r trafodaethau.”

DIWEDD

Nodiadau

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.