Deg mlynedd o gefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd

1 Mehefin 2015

Deg mlynedd o gefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd
 
Fel Undeb rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod eleni wedi cefnogi Eisteddfod yr Urdd am y degfed flwyddyn yn olynol. Derbyniodd Llywydd UCAC, Ioan Rhys Jones, dystysgrif gan Rhun Dafydd, Llywydd yr Urdd eleni, yn cydnabod y gefnogaeth honno.
Roedd yr Undeb yn noddi'r gystadleuaeth i Gôr S.A.T.B (Aelwyd) heb fod yn hwy na 40 mewn nifer  i rai rhwng 14 a 25 mlwydd oed.
 
Llongyfarchiadau calonnog i'r corau buddugol:
Cyntaf: Aelwyd Y Waun Ddyfal (Rhanbarth Caerdydd a'r Fro)
Ail: Aelwyd Llangwm (Rhanbarth Conwy)
Trydydd: Aelwyd Llundain (Rhanbarth tu allan i Gymru)