Hawlio ad-daliad treth incwm

Mae hawl gan athro neu ddarlithydd roi Tâl Aelodaeth ei Undeb yn erbyn ei dreth incwm a chael ad-daliad. Er enghraifft, ar gyfer 2023 gallai athro llawn amser hawlio 20% neu 40% o £219 yn ôl. 

Onid ydych wedi bod yn hawlio’r ad-daliad hwn yn flynyddol, mae modd i chi hawlio yn ôl am bedair mlynedd. 
 
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi pedair ffurflen P87, un ar gyfer pob blwyddyn. Cofiwch nodi eich rhif Yswiriant Cenedlaethol ar y ffurflen, a chyfeirnod treth eich cyflogwr (dylai hwn fod ar eich slip cyflog).
 
   Y flwyddyn dreth   Diwedd y flwyddyn dreth    Rhaid hawlio erbyn
      2018-19    5 Ebrill 2019    5 Ebrill 2023
      2019-20    5 Ebrill 2020    5 Ebrill 2024
      2020-21    5 Ebrill 2021    5 Ebrill 2025
      2021-22    5 Ebrill 2022    5 Ebrill 2026
      2022-23    5 Ebrill 2023    5 Ebrill 2027

 




 

 

 Mae’r tabl isod yn nodi’r Tâl Aelodaeth ar gyfer y gwahanol gategorïau o aelodaeth ers 2018.

Blwyddyn



Llawn
amser

Rhan-amser
(0.7-0.9)
Rhan-amser
(0.4-0.6)
Rhan-amser
(0.3 neu lai)

Blwyddyn
galendr
gyntaf
   2018 £204 £171 £138 £114 £0
   2019 £204 £171 £138 £114 £0
   2020 £204 £171 £138 £114 £0
   2021 £204 £171 £138 £114 £0
   2022 £204 £171 £138 £114 £0
   2023 £219 £183.60 £148.20 £122.40 £0
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Os am fwy o wybodaeth ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cymraeg ym Mhorthmadog ar 0300 200 1900.

Cyngor ariannol annibynnol

Gwasanaeth Ymgynghori Ariannol Annibynnol i Aelodau UCAC

 

HWFinancial

Gwasanaeth sy’n darparu cyngor yn y Gymraeg i athrawon ledled Cymru.  Wedi’i leoli yng Nghaerdydd a chysylltiadau yn y Gogledd - gellir cyfarfod yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.  Gyda theulu ifanc rwyf ar gael rhai nosweithiau hefyd. Mae gennyf 13 mylnedd o brofiad fel athro mewn ysgol Gyfun Gymraeg sy’n fy ngalluogi i ddeall eich gofynion ar lefel personol. Cynigir y canlynol fel gwasanaeth:

·        Cynllunio ar gyfer ymddeol

·        Egluro pensiynau

·        Arbed a Buddsoddi

·        Rheoli treth

·        Dadansoddi llif arian

·        Yswiriannau personol

 

Wesleyan

Rydym yn ymwybodol fod nifer o aelodau yn gwneud defnydd o gwmni Wesleyan gan eu bod hwythau yn gallu cynnig cefnogaeth penodol o ran Pensiwn Athrawon a buddsoddi yn ogystal. Fodd bynnag, nid oes gwarant y gallent ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg. 

 

Fairstone

Gwybodaeth i ddilyn....