DIWRNOD IECHYD MEDDWL Y BYD
10 Hydref 2023
Mae hi'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw. Mae UCAC yn rhoi pwys ar les ei aelodau. Os ydych chi'n Athro Newydd Gymhwyso, beth am ymuno â'r sesiwn lles a fydd ar-lein am 6yh nos Fercher 18 Hydref? Bydd y sesiwn yn gyfle i chi sgwrsio gydag un o swyddogion UCAC ac yn ystod y sesiwn, byddwch yn derbyn cyngor ar les, gan gynnwys sut i sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith.