Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Mae UCAC yn undeb ar gyfer athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid dros Gymru gyfan – yr unig undeb addysg sy’n rhoi addysgwyr Cymru’n gyntaf.
Rydyn ni’n cyfuno gwasanaeth ar lefel bersonol gyda grym undebol nerthol wrth ddylanwadu ac ymgyrchu.
Rydyn ni’n angerddol ynghylch cefnogi ac amddiffyn ein haelodau, ac ynghylch gweithio er budd system addysg sy’n gwbl addas i anghenion Cymru a phawb sy’n byw yma.
Os ydych chi’n hyfforddi i fod yn athro, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim i chi trwy gydol eich hyfforddiant.
Felly os ydych chi’n gwneud gradd BAdd, cymhwyster ôl-radd fel TAR (PGCE), neu’n gwneud doethuriaeth ac yn gwneud rhywfaint o addysgu, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Os ydych chi’n Athro Newydd Gymhwyso, mae UCAC yn cynnig aelodaeth am ddim trwy gydol eich blwyddyn addysgu gyntaf, ac yn hanner pris y flwyddyn ganlynol.
Felly os ydych chi newydd gymhwyso, a heb ymaelodi’n barod, dewch i ymuno AM DDIM i dderbyn gwasanaeth llawn.
Gorffennaf 2024
Mae lles staff yn ein hysgolion yn hollbwysig. Beth am ymuno â sesiwn rithiol a drefnir gan Education Support i rannu, trafod, dysgu a myfyrio ar les staff? Bydd y sesiwn a gynhelir ddydd Mawrth 9 Gorffennaf rhwng deuddeg o'r gloch ganol dydd i un o'r gloch yn darparu adnoddau a syniadau ymarferol, gwybodaeth am iechyd meddwl a lles. Bydd hefyd yn gyfle da i drafod a rhannu arfer da. Thema'r sesiwn fydd 'Mae gwyliau'r haf ar ddechrau: gadewch i ni ddathlu' a bydd y pwyslais ar flaenoriaethu hunanofal yn ystod yr haf hwn, yn ogystal â myfyrio ar les staff yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Mae rhagor o wybodaeth a’r ddolen gofrestru ar gael yma: https://www.educationsupport.org.uk/news-and-events/events/wellbeing-network-for-schools-in-wales/
Mehefin 2024
Pwnc sy'n codi ei ben yn aml y dyddiau hyn yw ymddygiad a disgyblaeth. Mae Education Support yn cynnal dosbarth meistr ar-lein i athrawon ddydd Mawrth yr ail o Orffennaf rhwng hanner awr wedi naw a deuddeg o'r gloch ar ymddygiad a meithrin gwydnwch. Isod, ceir mwy o wybodaeth am y gweithgaredd:
Gall staff ysgolion yng Nghymru gofrestru ar gyfer dosbarth meistr wedi’i ariannu ‘Torri’r Cylch Trawma: Ymddygiad Disgyblion a Meithrin Gwydnwch’ ar ail o Orffennaf rhnwg 9.30a 12.00 o'r gloch.
Mae’r dosbarth meistr rhithwir hwn yn cael ei lywio gan ein dealltwriaeth gynyddol o’r system nerfol ddynol, mae’n cynnig arweiniad ar beth i’w wneud i aros yn oedolyn diogel pan fo disgyblion yn dangos ymddygiad heriol. Mae hefyd yn rhannu fframwaith lles ymarferol ar gyfer meithrin gwydnwch gwirioneddol ac iechyd da i bawb mewn ysgolion.
Os ydych yn aelod o staff ysgol yng Nghymru, gallwch gofrestru nawr i sicrhau eich lle, a ariennir heb unrhyw gost i chi: https://www.eventbrite.co.uk/e/breaking-the-trauma-cycle-pupil-behaviour-and-building-resilience-tickets-915232865137?aff=oddtdtcreator
Prif Swyddfa UCAC
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2EU
01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
©UCAC Holl hawliau ar gadw. Datblygwyd gan AIM Development