PLEIDLAIS AR GYLLIDEB ATODOL - YMATEB UCAC
Gorffennaf 15fed,2026
Ymateb i'r bleidlais ar Gyllideb Atodol ddydd Mawrth, Gorffennaf 14eg, 2026
Mae UCAC wedi siomi'n fawr bod gwleidydda gan bleidiau gwleidyddol a chyrff eraill yn golygu na fydd ysgolion Cymru yn derbyn arian ychwanegol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae angen pob ceiniog bosibl i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc ac mae'n hollbwysig fod system gynaliadwy ar eu cyfer. Siomedig iawn ydyw bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu defnyddio fel arfau gwleidyddol yn y fath fodd ac nad oes modd rhoi trefniadau yn eu lle i ddefnyddio'r £120 miliwn ychwanegol yr oedd Llywodraeth Cymru am ei ddyrannu ar gyfer ADY.
CODIAD CYFLOG 2026 - YMATEB UCAC
Gorffennaf 15fed, 2026
Mewn cyfarfod neithiwr (Gorffennaf 14eg) o Gyngor Cenedlaethol UCAC, penderfynwyd peidio â gwrthwynebu'r cynnig o godiad cyflog o 3.5% i athrawon o fis Medi 2026. Croesawyd y ffaith bod y codiad o 3.5% wedi ei ariannu'n llawn, yn unol â gofyn UCAC a'r undebau eraill. Croesawyd hefyd y ffaith fod y datganiad gan y Gweinidog yn cyfeirio'n benodol at ymarferwyr mewn colegau, yn ogystal ag athrawon.
Ymhellach, roedd croeso i'r ffaith y bydd argymhellion eraill gan y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC) yn cael eu hystyried dros yr haf. Byddwn felly fel undeb yn pwyso ar y Gweinidog i roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r llwyth gwaith a'r amodau gwaith anodd sy'n wynebu athrawon. Rydym wedi cael addewidion oddi wrth Lywodraethau'r gorffennol ond nid ydym wedi symud ymlaen nemor ddim yn y maes hwn. Efallai fod Llywodraethau'r gorffennol wedi gwrando, ond ychydig iawn o weithredu sydd wedi bod. Hyderwn y bydd y Llywodraeth newydd hon wir yn gwneud gwahaniaeth ac na fyddwn yn gweld patrwm tebyg i'r hyn a welwyd gan Lywodraethau eraill, lle roedd hi'n ymddangos eu bod yn gwrando ond heb weithredu.
Fodd bynnag, datganodd y Cyngor Cenedlaethol siom yn y ffaith nad yw'r Llywodraeth wedi dangos gwir hyder yn ei phwerau datganoledig. Yn hytrach, mae'n ymddangos ei bod wedi dod i'w phenderfyniad yn sgil y penderfyniadau a wnaed yn Lloegr, yn hytrach nag ar sail amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru ei hun. Pe bai argymhellion CACAC wedi'u gweithredu eleni, byddai cyflogau athrawon wedi codi 4.25%.
Rhaid cofio bod materion addysg wedi eu datganoli ers blynyddoedd bellach. Rydym yn frwd i sicrhau y bydd penderfyniadau ar gyflogau yn y dyfodol yn adlewyrchu egywddorion ac ysbryd datganoli, ac yn dilyn argymhellion CACAC.