WYTHNOS YMWYBYDDIAETH IECHYD MEDDWL
Mai 2025
Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Mae hi’n bwysig ein bod yn gofalu amdanom ein hunain yn gorfforol ac yn feddyliol. Cofiwch fod UCAC ac Education Support bob amser yn barod i’ch helpu. Dyma becyn cymorth dwyieithog gan Education Support – beth am fwrw golwg arno: Dolen
GALWAD AM YMDDIRIEDOLWYR
Mai 2025
Mae UCAC yn cynrychioli athrawon, darlithwyr ac arweinwyr addysg ym mhob cwr o Gymru.
Rydym yn awyddus i benodi ymddiriedolwyr newydd i gyfrannu at lywodraethiant yr Undeb. Mae croeso i unrhyw aelod neu gyn-aelod fynegi diddordeb, a’r Cyngor Cenedlaethol fydd yn penodi’n derfynol.
Prif rôl Ymddiriedolwyr UCAC yw llywodraethu a rheoli asedau’r Undeb:
- Gwarchod holl fuddsoddiadau’r Undeb, a derbyn cyngor gan yr ymgynghorwyr ariannol perthnasol
- Bod yn gyfrifol am eiddo’r Undeb, gan sicrhau fod anghenion iechyd a diogelwch yn cael eu diwallu a sicrhau bod yr eiddo yn cael ei gadw’n safonol.
- Sicrhau bod Cynllun Pensiwn UCAC yn cael ei weinyddu’n effeithiol ac yn gywir gydag arweiniad arbenigwyr.
Mae’n gyfrifoldeb cyffredinol ar yr Ymddiriedolwyr i sicrhau gwytnwch yr Undeb a disgwylir iddynt gyfrannu at drafodaethau yn ymwneud â chyllid a datblygiad UCAC.
Disgwylir i Ymddiriedolwyr fod ar gael i gyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn.
Disgwylir i ymddiriedolwyr wasanaethu am dymor o dair blynedd, ond mae modd gwasanaethu am sawl tymor yn ddilynol.
Nid oes tâl i’r rôl hon, ond cynigir costau teithio.
Os oes diddordeb gennych i ymgymryd â’r rôl, cysylltwch â Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. am sgwrs neu i fynegi diddordeb (erbyn Mehefin 30ain) gan roi crynodeb o’ch gyrfa ac amlinelliad yn egluro eich diddordeb.